Cytuno ar drethi yng Nghymru

Cyhoeddwyd 19/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/03/2021   |   Amser darllen munudau

Y Senedd, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am rai o’r trethi a bennir yng Nghymru. 

Ein rôl ni yw gwirio a chymeradwyo gwaith Llywodraeth Cymru ynghylch pennu cyfraddau trethi a chyflwyno trethi newydd.

 

Trethi yng Nghymru

Yng Nghymru, byddwn yn talu rhai trethi sy’n wahanol i’r trethi sy’n daladwy yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

Mae’r trethi hyn fel a ganlyn:

  • Cyfraddau treth incwm Cymru
  • Treth Trafodiadau Tir (sy’n disodli Treth Dir y Dreth Stamp)
  • Treth Gwarediadau Tirlenwi (sy’n disodli’r Dreth Dirlenwi)

Caiff Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i’r trethi hyn, ar yr amod y cânt eu cymeradwyo gan Aelodau o’r Senedd. Caiff Llywodraeth Cymru gyflwyno trethi newydd yng Nghymru hefyd, yn amodol ar ganiatâd a chytundeb Senedd Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig.

 

Deddf Cymru 2014 a 2017

O ganlyniad i gyflwyno dwy Ddeddf newydd, cafodd y Senedd bwerau newydd dros drethi yng Nghymru.

Dechreuodd y pwerau newydd hyn ym mis Ebrill 2018, a chafodd pwerau dros gyfraddau treth incwm Cymru eu cyflwyno ym mis Ebrill 2019.

Oherwydd y pwerau newydd hyn, gellir amrywio cyfraddau’r trethi rydych yn eu talu yng Nghymru, gan olygu y gallent fod yn fwy, yn llai neu’r un peth ag yng ngweddill y DU.

 

Sut y caiff trethi eu gwario yng Nghymru

Llywodraeth Cymru sy’n penderfynu sut y caiff eich trethi eu gwario yng Nghymru. Bob blwyddyn, caiff cyllideb ddrafft ei chyflwyno er mwyn i’r Senedd graffu arni.

Wedyn, bydd Pwyllgorau’r Senedd yn edrych yn fanwl ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, gan awgrymu newidiadau i’r meysydd y dylid gwario arian ynddynt.

Ar ôl cytuno ar y gyllideb derfynol, caiff ei chyflwyno ar gyfer dadl yn y Senedd, cyn cynnal pleidlais arni yn barod ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Archwilio gwariant gan Lywodraeth Cymru

Caiff Llywodraeth Cymru fenthyg arian i gyllido gwariant yng Nghymru, ac mae’r Senedd yn edrych yn fanwl ar faint o arian sy’n cael ei fenthyg a’r gost i gyllido hyn.

 

Eisiau dysgu mwy am ddatganoli cyllidol?

Dysgwch fwy am sut caiff cyllideb Cymru ei hariannu a sut caiff trethi eu cymeradwyo yng Nghymru.

Dysgwch fwy am ddatganoli cyllidol