Beth all eich pleidlais ei wneud

Cyhoeddwyd 01/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/02/2021   |   Amser darllen munudau

Mae dy bleidlais yn bwerus. Mae'n rhoi cyfle i ti ddweud dy ddweud am y ffordd y mae'r wlad yn cael ei rheoli. P'un ag wyt ti’n pleidleisio mewn etholiad, neu refferendwm, mae dy bleidlais yn bwysig. Drwy bleidleisio mi fydd dy lais yn cael ei glywed.

 

Pleidleisio mewn etholiad

Mae etholiad yn gyfle i ddefnyddio dy bleidlais i ddewis y person neu'r blaid rwyt ti’n teimlo sy'n dy gynrychioli di orau.

Yng Nghymru, mae modd pleidleisio yn:

  • Etholiadau’r Senedd, i ddewis pwy fydd yn dy gynrychioli di, dy etholaeth a'th ranbarth yn y Senedd.
  • Etholiadau cyffredinol y DU, i ddewis pwy fydd yn dy gynrychioli di a dy etholaeth yn Senedd y DU.
  • Etholiadau cynghorau lleol, i ddewis pwy fydd yn cynrychioli dy ardal di o’r sir yn y cyngor lleol.

Etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, i ddewis pwy fydd yn gwirio gwaith y Prif Gwnstabliaid a'r heddlu yn dy ardal.

 

Pleidleisio mewn refferendwm

Mae refferendwm yn gyfle i ddefnyddio dy bleidlais i ateb cwestiwn sy'n effeithio ar bawb yn y wlad.

Mae penderfyniadau mawr am y wlad, a'r ffordd y mae pethau'n gweithio fel arfer yn cael eu gwneud gan y bobl sydd wedi eu hethol.

Fodd bynnag, weithiau mae'n bwysig gwybod beth yw barn pawb sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio ar gwestiwn penodol. Mae refferendwm yn cael ei ddefnyddio fel arfer ar gyfer cwestiynau 'mawr', lle gofynnir am farn pawb.

Mae’r Gymru Fodern wedi’i llunio gan benderfyniadau refferenda:

  • 1 Mawrth 1979: gofynnodd refferendwm a ddylid cael Cynulliad yng Nghymru. Fe wnaeth y mwyafrif o bobl bleidleisio yn erbyn.
  • 18 Medi 1997: gofynnodd refferendwm a ddylid cael Cynulliad Cenedlaethol i Gymru. Y tro hwn, fe wnaeth y mwyafrif o bobl bleidleisio o blaid.
  • 3 Mawrth 2011: gofynnodd refferendwm a ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael y pŵer i ddeddfu ar faterion ehangach. Fe wnaeth y mwyafrif o bobl bleidleisio o blaid.