Cofrestru i bleidleisio

Cyhoeddwyd 01/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/02/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’n rhaid cofrestru er mwyn gallu pleidleisio mewn etholiad yng Nghymru. Mae’n hawdd ac yn gyflym i gofrestru.

Mae'n sicrhau dy fod di’n gallu defnyddio dy lais ar ddiwrnod yr etholiad, er mwyn dewis pwy wyt ti eisiau i wneud y penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru.

 

Cofrestru ar-lein

Rhaid bod yn 14 oed neu'n hŷn i gofrestru i bleidleisio yn etholiad y Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru.

Bydd gofyn i ti roi rhif Yswiriant Gwladol, ond mae'n bosib cofrestru os nad oes un gen ti.

Cofrestru i bleidleisio

 

Cofrestru drwy'r post

Mae angen i chi lawrlwytho a llenwi ffurflen i wneud cais am bleidlais drwy’r post.

Gwneud cais am bleidlais drwy’r post

Ar ôl ychwanegu dy fanylion, bydd angen postio’r ffurflen i'r Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.

Ar www.gov.uk/contact-electoral-registration-office mae modd dod o hyd i'r swyddfa leol.

 

Mwy o wybodaeth

I gael gwybod pa etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol:

https://www.electoralcommission.org.uk/i-am-a/voter/which-elections-can-i-vote