Beth mae Aelodau o'r Senedd yn ei wneud?

Cyhoeddwyd 19/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/04/2021   |   Amser darllen munudau

Beth mae Aelodau yn ei wneud yn y Senedd? 

Pan mae’r Senedd yn eistedd (cyfarfod), mae'r Aelodau'n cwrdd ddwywaith yr wythnos yn y Siambr. Maent yn holi Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn archwilio cyfreithiau arfaethedig ac yn trafod materion. 

Mae'r rhan fwyaf o Aelodau hefyd yn cymryd rhan yn ein pwyllgorau. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar agweddau penodol ar fywyd yng Nghymru, fel iechyd neu addysg, ac yn archwilio cyfreithiau neu bolisi'r llywodraeth a allai effeithio arnynt. 

Yn fras, mae ein pwyllgorau’n cynnwys Aelodau sy'n cyd-fynd â chynrychiolaeth gyffredinol y pleidiau etholedig cyfredol

 

Beth mae Aelodau'n ei wneud yn y llefydd maent yn eu cynrychioli?

Mae gan y rhan fwyaf o Aelodau swyddfa leol yn eu hetholaeth neu ranbarth, ac maent yn cyflogi staff i'w helpu gydag ymholiadau gan eu hetholwyr.   

Bydd Aelodau'n aml yn cynnal ‘cymhorthfa'. Mae'r rhain yn sesiynau rheolaidd i unrhyw aelod o'r cyhoedd ddod i gwrdd â'u cynrychiolydd a thrafod unrhyw faterion a allai fod yn destun pryder iddynt.  Mae llawer o etholwyr hefyd yn cysylltu ar-lein, neu dros y ffôn.   

Bydd Aelodau hefyd yn ymweld â busnesau, ysgolion a sefydliadau lleol eraill i geisio cwrdd â chymaint o bobl â phosibl. Mae hyn yn rhoi gwell syniad iddynt o’r materion a’r problemau bob dydd sy'n wynebu'r rhai y maent yn eu cynrychioli, a gallant eu trafod wedyn yn y Senedd.

 

Pwy yw eich Aelodau o'r Senedd

Cewch eich cynrychioli yn y Senedd gan bumb o Aelodau. Un ar gyfer eich ardal leol a phedwar ar gyfer y rhanbarth o Gymru rydych chi'n byw ynddi.

Pwy yw eich Aelodau o'r Senedd