Sut y caiff yr Aelodau eu hethol?

Cyhoeddwyd 19/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/03/2021   |   Amser darllen munudau

Mae cyfanswm o 60 o Aelodau yn y Senedd - mae 40 ohonynt yn Aelodau etholaeth, sy’n cynrychioli'r un etholaethau lleol ag Aelodau Seneddol San Steffan, ac mae’r 20 arall yn Aelodau rhanbarthol, sy’n cynrychioli un o bum rhanbarth Cymru.

Caiff pawb yng Nghymru eu cynrychioli gan un Aelod Etholaeth a phedwar Aelod Rhanbarthol. Mae gan bob Aelod etholaeth ac Aelod rhanbarthol statws cyfartal yn y Senedd. Mae hyn yn golygu bod holl fuddiannau rhanbarthau ac etholaethau Cymru yn cael eu cynrychioli’n gyfartal.

Aelodau rhanbarthol

Y pum rhanbarth yw: Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gorllewin De Cymru, Canol De Cymru, Dwyrain De Cymru. Mae pedair sedd i bob un rhanbarth.

Mae Aelodau Rhanbarthol yn cael eu dewis gan ddefnyddio'r System Aelodau Ychwanegol.

Mae’r System Aelod Ychwanegol yn helpu i ddewis Aelodau’r Senedd yn derfynol, a rhoi gwell adlewyrchiad o’r gefnogaeth i bob plaid ar draws y wlad.

Aelodau etholaeth

Caiff y 40 Aelod etholaeth eu dewis yn ôl y system ‘y cyntaf i’r felin’; Yna, etholir yr ymgeisydd sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau.

Sut mae’r system ranbarthol yn gweithio?

Dyma sut mae’r system ranbarthol yn gweithio:

  • mae pob plaid neu grŵp mewn rhanbarth yn cyflwyno rhestr o ymgeiswyr;
  • mae’r etholwyr yn pleidleisio dros y blaid o’u dewis hwy;
  • caiff y pleidleisiau rhanbarthol eu cyfrif ar ôl i’r pleidleisiau etholaeth gael eu cyfrif;
  • caiff cyfanswm pleidleisiau pob plaid ei rannu ag 1 + nifer yr Aelodau o'r Senedd sydd ganddi yn y rhanbarth hwnnw eisoes;
  • y blaid sydd â’r cyfanswm uchaf ar ôl y cyfrif hwn sy’n cael y sedd nesaf a chaiff y person ar ben ei rhestr ei ethol;
  • ailadroddir yr un patrwm nes y bydd y pedair sedd ranbarthol wedi cael eu penderfynu.

 


Canlyniadau'r etholiad

Archwiliwch ganlyniadau etholiadau ac isetholiadau'r Senedd.

Gweler canlyniadau'r etholiad