Etholiad y Senedd - Eich Pleidlais Gyntaf

Cyhoeddwyd 25/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/04/2021   |   Amser darllen munudau

Etholiad y Senedd - Eich Pleidlais Gyntaf

Ar gyfer Cyfnodau Allweddol 4 a 5 (CA4+)(cyflwyniad 20 munud o hyd)

Ymunwch â Thîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd i gymryd rhan mewn gweithdy ar rôl y Senedd, ei phwerau a sut i gofrestru a phleidleisio o ran Etholiad y Senedd, sydd ar y gorwel. Gyda chyflwyno Pleidleisio’n 16 mlwydd oed yn etholiad y Senedd 2021, bydd hon yn sesiwn amhrisiadwy i ennyn diddordeb pleidleiswyr am y tro cyntaf yn y broses etholiadol, gan gynnwys sut i gofrestru a phleidleisio.

Gellir archebu'r cyflwyniad hwn fel sesiwn breifat sy'n addas i'ch grŵp neu ysgol, ar unrhyw adeg, drwy lenwi ein ffurflen archebu. Mae hwn yn berffaith ar gyfer gwasanaethau ysgol / coleg neu fel cyflwyniad fel rhan o sesiwn neu ddigwyddiad ehangach.