Mae ein holl weithgareddau fel rhan o’ch ymweliad â’r Senedd yn gysylltiedig â chwricwlwm newydd Cymru. Dewch i wybod mwy am y cysylltiadau yn ein sesiynau.
Pŵer a Phrotest
Gweithgaredd |
Cysylltiadau â’r cwricwlwm |
Gweithgaredd 1 Torri’r iâ Gweithgaredd 2 Beth yw’r Senedd? Pwy sy’n gyfrifol am beth? Gweithgaredd 3 Trafod sut y gallant sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed yng Nghymru. Dyma rai enghreifftiau:
Gweithgaredd 4 Cwis Kahoot |
Gallaf wneud penderfyniadau, nodi cyfleoedd a chynllunio camau priodol i leisio fy llais. Gallaf gymharu a gwerthuso systemau llywodraethu lleol, cenedlaethol a byd-eang, gan gynnwys systemau llywodraethu a democratiaeth yng Nghymru, gan ystyried eu heffaith ar gymdeithasau yn y gorffennol a'r presennol, a hawliau a chyfrifoldebau dinasyddion yng Nghymru. |
Bydd y myfyrwyr yn dysgu am y Cyfarfod Llawn yn y Senedd trwy ymweld â’r siambr drafod wreiddiol. Trafod mater amserol. Gofyn i’r myfyrwyr drafod a herio’r safbwyntiau hyn. |
Gallaf wrando a darllen yn empathig gan barchu safbwyntiau gwahanol bobl a gallaf eu gwerthuso’n feirniadol i ddod i’m casgliadau ystyriol fy hun. |
Bydd y disgyblion yn dysgu am nodweddion cynaliadwyedd y Senedd, yn cwrdd â’u Haelodau (os ydynt ar gael) ac yn dysgu mwy am waith Aelod o’r Senedd. |
Gallaf gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, a gallaf rannu barn a thystiolaeth gyda’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac aelodau etholedig yn fy nghymuned. |