Caiff gwasanaeth allanol Addysg ac Ymgysylltu a phobl Ifanc y Senedd ei redeg gan athrawon a gweithwyr ieuenctid profiadol.
Gallwch drefnu sesiwn ar lein ar gyfer eich hysgol neu fudiad Ieuenctid.
Rydym yn cynnig:
- Cyflwyniadau neu weithdai interactif ar gyfer oedrannau 7-25 oed i ddysgu am y Senedd mewn ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid.
- Cyfle i bobl Ifanc i rhoi adborth, drwy ymgynghoriadau, ar faterion sy’n cael eu trafod gan Bwyllgorau’r Senedd.
- Ffocws ar sut mae pobl Ifanc yn gallu ymgysylltu â gwaith y Senedd e.e. proses ddeisebau’r Senedd.
- Addysgu am waith Senedd Ieuenctid Cymru a sut i gymryd rhan.
- Mae’r gweithdai yn berthnasol i themâu dinasyddion moesol gwybodus ac yn addas at wersi Addysg Bersonol/ BAC a Chynghorau Ysgol.
Trefnwch gyflwyniad neu weithdy yn eich ysgol neu'ch coleg drwy ffonio 0300 200 6565 neu ebostiwch cyswllt@senedd.cymru.