Caiff gwasanaeth allanol Addysg ac Ymgysylltu a Phobl Ifanc y Senedd ei redeg gan athrawon a gweithwyr ieuenctid profiadol.
Gallwch drefnu sesiwn wyneb yn wyneb neu ar-lein ar gyfer eich hysgol neu fudiad ieuenctid.
Rydym yn cynnig:
- Cyflwyniadau neu weithdai rhyngweithiol ar gyfer oedrannau 7-25 oed i ddysgu am y Senedd mewn ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid.
- Cyfle i bobl ifanc i roi adborth, drwy ymgynghoriadau, ar faterion sy’n cael eu trafod gan Bwyllgorau’r Senedd.
- Ffocws ar sut mae pobl ifanc yn gallu ymgysylltu â gwaith y Senedd e.e. proses ddeisebau’r Senedd.
- Addysgu am waith Senedd Ieuenctid Cymru a sut i gymryd rhan.
- Mae’r gweithdai yn berthnasol i themâu dinasyddion moesol gwybodus ac yn addas ar gyfer gwersi Addysg Bersonol/BAC a Chynghorau Ysgol.
I drefnu cyflwyniad neu weithdy yn eich ysgol neu goleg defnyddiwch y ffurflen archebu isod.
chevron_right