Ar gael am 13:00-14:30 ar brynhawn Mawrth a phrynhawn Mercher. Addas ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 4- 6. ** Maint y grŵp: 40.
Addas ar gyfer: Disgyblion ysgolion cynradd (Blwyddyn: 4-6)
Maint y grŵp: 40 disgybl **(Pwysig)
Hyd: 1 awr 30 munud ( ond ar gael prynhawn dydd Mawrth a phrynhawn dydd Mercher)
Lleoliad: Ystâd y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Bydd dysgwyr yn chwarae rôl Aelod o’r Senedd, yn cymryd rhan mewn dadl, ac yn arsylwi ar Aelodau o’r Senedd yn trafod yn y Senedd.
Gweithgareddau
Dechreuwch eich prynhawn gyda chyflwyniad byr i'r Senedd, cyn arsylwi ar Aelodau o’r Senedd yn gweithio yn ystod y Cyfarfod Llawn.
Siambr Hywel
Bydd y disgyblion yn trafod pwnc llosg y dydd, er enghraifft:
- Fy Nghymru, Fy Mhlaned
- Ffitrwydd a Lles
- Fy Mreuddwydion
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Archebu Lle
Gwelwch y dyddiadau sydd ar gael a threfnwch eich ymweliad heddiw.
chevron_right
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd angen i chi fynd drwy’r broses ddiogelwch felly byddem yn cynghori pob grŵp i gyrraedd 10 munud cyn i'ch ymweliad ddechrau.
- Os byddwch yn ymweld ar fore dydd Mawrth neu fore dydd Mercher, gallwch archebu tocynnau i wylio'r Cyfarfod Llawn sy'n dechrau am 13.30.
- Gellir archebu ystafell ginio ar gyfer eich grŵp cyn neu ar ôl yr ymweliad.
- Mae cymhorthdal tuag at gostau teithio i'r Senedd ar gael i ysgolion cymwys. Mwy am gymorthdaliadau
Sut mae'r sesiwn hon yn cysylltu â'r cwricwlwm newydd? Gweld y cysylltiadau â’r cwricwlwm