Gwir Gofnod o Gyfnod – Setting the Record Straight

Cyhoeddwyd 07/03/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/02/2022   |   Amser darllen munudau

Archif Menywod Cymru a'r Senedd, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Dyddiad: 7 Mawrth – 22 Mawrth

Lleoliad: Senedd

Archebwch eich tocyn am ddim

 

Cyfweliad Suzy Davies AS ar gyfer Gwir Gofnod o Gyfnod

 

Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022, mae clipiau o Gwir Gofnod o Gyfnod - Setting the Record Straight yn cael eu arddangos yn y Senedd. Rhwng 2019 a 2021, casglodd Archif Menywod Cymru a'r Senedd straeon, lluniau a phapurau gwleidyddol gan Aelodau benywaidd y Cynulliad a'r Senedd o’r gorffennol a'r presennol.

Roedd y prosiect yn nodi 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru a'i nod oedd diogelu gwaddol pwysig yr Aelodau benywaidd yn ystod y cyfnod hwnnw. O ddechrau Cynulliad Cymru ym 1999 cafwyd ymgyrch gref dros gydraddoldeb, ac yn 2003 Cynulliad Cymru oedd y corff deddfwriaethol cyntaf yn y byd i sicrhau cydbwysedd cyfartal rhwng y rhywiau rhwng ei Aelodau.

Dangosir cyfweliadau hanes llafar a gynhaliwyd gydag Aelodau drwy gydol y prosiect yn y fideo. Mae eu lleisiau'n adrodd hanes eu rôl allweddol yn yr ymgyrch dros ddatganoli, yn ogystal â'r gwaith sy'n parhau heddiw ar gyfer cydraddoldeb rhywiol, LHDTC+ a hil.

Mae'r archif yn mynd i'r afael â bwlch mewn hanes nad oedd wedi'i gipio o'r blaen. Nawr, gall cenedlaethau'r dyfodol weld y cyfraniadau pwysig y mae menywod wedi'u gwneud i ddemocratiaeth Cymru.