Gwneud cais i gynnal digwyddiad

Cyhoeddwyd 24/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/04/2024   |   Amser darllen munudau

Mae cynnal digwyddiad ar ystâd y Senedd yn rhoi’r cyfle ichi godi proffil eich sefydliad a’r materion a’r pryderon sy’n berthnasol iddo.

Llenwch ffurflen gais nawr, i weld a allwn gynnal eich digwyddiad.

 

Digwyddiadau yn y Senedd

Gall Aelodau’r Senedd, Staff Cymorth Aelodau, Staff y Comisiwn a Threfnwyr Allanol archebu mannau digwyddiadau yn y Senedd.

Mae digwyddiadau yn y Senedd fel arfer yn cael eu rhannu’n tri chategori gwahanol:

  1. Digwyddiad: i’w gynnal yn un o’n mannau digwyddiadau cyhoeddus - y Senedd neu’r Pierhead – a all gynnwys derbyniadau, perfformiadau, digwyddiadau rhwydweithio, stondinau gwybodaeth, seremonïau gwobrwyo, cynadleddau, darlithoedd, neu debyg.
  2. Seminar neu sesiwn friffio: i’w gynnal neu i’w chynnal yn Ystafelloedd Cynadledda C a D yn Nhŷ Hywel yn ystod sesiynau digwyddiadau wedi’u diffinio. Gall y gweithgareddau hyn gynnwys seminar, trafodaeth bord gron neu sesiwn friffio, ac maent wedi’u hanelu at grŵp bach o Aelodau o’r Senedd ar gyfer rhannu gwybodaeth. 
  3. Y Farchnad: Cynnal stondin yn un o'n digwyddiadau marchnad yn yr Oriel.

Sut i wneud cais i gynnal digwyddiad

  1. Llenwch ffurflen gais, gan roi cymaint o fanylion â phosibl am eich digwyddiad. Rydym yn argymell gwneud cais bump i chwe mis cyn dyddiad eich digwyddiad.

  2. Ar ôl i ni gael eich cais, bydd yn cael ei asesu a'i adolygu i sicrhau ei fod yn bodloni ein telerau a’n hamodau.
             
  3. Os caiff eich digwyddiad ei gymeradwyo, byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau'r dyddiad, yr amser a'r lleoliad a drefnwyd ac i roi gwybodaeth am y camau nesaf.

  4. Cyn i'ch digwyddiad gael ei gynnal, bydd angen i ni gael prawf bod Aelod o'r Senedd yn noddi’r digwyddiad, a chopi o destun eich gwahoddiad i'w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.

  5. Chwech i wyth wythnos cyn eich digwyddiad, byddwch yn cael gwybod pa Swyddog Digwyddiadau fydd yn gweithio gyda chi i wneud y trefniadau terfynol ar gyfer eich digwyddiad.

  6. Rhaid i chi wahodd pob un o'r 60 o Aelodau o'r Senedd i’ch digwyddiad, mae rhagor o fanylion am ein telerau a’n hamodau ar gael yma