Ymgysylltu â Dinasyddion

Mae’r Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion yn cefnogi Pwyllgorau’r Senedd drwy gynllunio, hwyluso a darparu rhaglenni ymgysylltu effeithiol sy’n briodol ar gyfer yr ymgynghoriadau a gynhelir gan y Pwyllgorau.

Trwy gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb gan gynnwys grwpiau ffocws, arolygon, cyfweliadau, grwpiau cynghori, a fforymau trafod, mae'r Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol ledled Cymru i gefnogi gwaith Pwyllgorau'r Senedd.

Mae gwaith ymgysylltu'r tîm yn golygu bod Aelodau mewn Pwyllgorau yn gallu ystyried barn a phrofiadau defnyddwyr gwasanaeth, gweithwyr rheng flaen a phobl sydd â phrofiad byw wrth wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.

 

Gellir dod o hyd i'r holl ganfyddiadau ymgysylltu cyhoeddedig ar dudalennau ymgynghoriad y Pwyllgor perthnasol.


Gallwch weld rhestr gyflawn o'r pwyllgorau presennol yma.

Pam Ymgysylltu â Dinasyddion?

Mae’r Pwyllgorau’n comisiynu gwaith ymgysylltu â dinasyddion er mwyn deall agweddau, ymddygiadau a safbwyntiau pobl sydd â phrofiad byw, gweithwyr rheng flaen a defnyddwyr gwasanaethau, ac er mwyn cael mewnwelediadau i’w profiadau a’u deall. Mae’r mewnwelediadau hyn yn cefnogi gwaith y Pwyllgorau o ran:​​​

  • deall yr amgylchedd ehangach;
  • cymhwyso dealltwriaeth gyd-destunol i bolisïau, deddfwriaeth neu faterion cyllidol;
  • craffu ar effeithiolrwydd polisïau, deddfwriaeth neu benderfyniadau ariannol;
  • gwerthuso effeithiolrwydd polisïau; a
  • deall credoau, gwerthoedd ac agweddau pobl.

Eich llais

Mae eich llais yn bwysig iawn yng ngwaith y Senedd. Mae cymryd rhan mewn gweithgaredd ymgysylltu â dinasyddion yn un ffordd o ddefnyddio'ch llais.

Gall gweithgaredd ymgysylltu â dinasyddion gynnwys grwpiau ffocws, grwpiau cynghori, arolygon, cyfweliadau manwl, fforymau trafod, gweithdai trafod a chyhoeddwyr bach, wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Bydd defnyddio eich llais i gyfrannu at weithgaredd ymgysylltu â dinasyddion yn rhoi dealltwriaeth gyfoethog i Bwyllgor o farn a syniadau'r rhai sydd â phrofiad byw o'r materion dan ystyriaeth.

Mae'n bwysig bod gwaith Pwyllgor yn cael ei lywio gan arbenigedd pobl sydd â phrofiad byw. Mae'n ychwanegu gwerth at gasglu tystiolaeth ac yn rhoi sylfaen dystiolaeth gadarn i'r Pwyllgor ar gyfer eu gwaith.

Cymryd rhan

Os byddwch yn penderfynu cymryd rhan mewn gweithgaredd ymgysylltu â dinasyddion, byddwch yn cael eich cefnogi gan y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion drwy gydol yr ymgynghoriad.

Lle bo'n berthnasol, bydd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion yn rhannu briff a/neu arweiniad gyda chi cyn y gweithgaredd gan gynnwys gwybodaeth berthnasol, er enghraifft, pynciau i'w trafod.

Bydd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad yr ymgynghoriad drwy gydol cyfnod yr ymgynghoriad.

Byddwch hefyd yn gallu dilyn datblygiad yr ymchwiliad ar dudalen we'r Pwyllgor.

Os oes angen cymorth pellach arnoch yn ymwneud â'ch cyfraniad i'r gweithgaredd, gellir trafod hyn gyda'r Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion.

Yn dilyn yr ymchwiliad, mewn rhai achosion, efallai y cewch eich gwahodd i wylio dadl yn Siambr y Senedd a chwrdd ag aelodau'r Pwyllgor.

Mae cymryd rhan mewn gweithgaredd ymgysylltu â dinasyddion yn wirfoddol a gallwch atal eich cyfraniad ar unrhyw adeg.

Mae pob cyfraniad gweithgaredd ymgysylltu â dinasyddion yn ddienw ac ni fydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy yn cael ei rannu'n gyhoeddus.

I ddeall sut y bydd eich cyfraniad a'ch gwybodaeth yn cael eu defnyddio, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd.

Eisiau gwybod mwy?

Gallwch ddarllen mwy am sut y gall y broses o ymgysylltu â’r cyhoedd gefnogi effeithiolrwydd gwaith y Pwyllgorau mewn erthygl a ysgrifennwyd gan Yr Athro Diana Stirbu o Brifysgol Fetropolitan Llundain. Mae'r erthygl dan sylw wedi'i chyhoeddi yn The Parliamentarian 2022. Gallwch glicio yma os ydych am ei darllen.