02/06/2009 - Answers issued to Members on 2 June 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 2 Mehefin 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gynyddu’r gefnogaeth i ddisgyblion ag anawsterau cyfathrebu yng Nghymru? (WAQ54242)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog gynnig cefnogaeth i ddisgyblion ag anawsterau cyfathrebu yng Nghymru sy’n debyg i’r gefnogaeth a roddir gan BECTA yn Lloegr ar hyn o bryd? (WAQ54243)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i sicrhau cyfle cyfartal i bob un o’r dysgwyr yng Nghymru. Mae hyn yn golygu mynediad i amgylchoedd addysgu o’r radd flaenaf sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif a bod staff addysgu yn gallu darparu cymorth ac ymyriad priodol i ddiwallu anghenion unigol dysgwyr. Cytunais yn ddiweddar i ddarparu arian gwerth £2m dros y tair blwyddyn ariannol nesaf (2009 - 2012) er mwyn sefydlu prosiectau peilota i ddatblygu system statudol ymhellach i sicrhau y caiff anghenion pob un o’r disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol eu diwallu’n briodol ac mewn ffordd amserol.

Os hoffech ysgrifennu ataf i nodi’r meysydd sydd gennych ddiddordeb arbennig ynddynt, byddwn yn fwy na pharod i roi ymateb manylach.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi unrhyw sylwadau a gafodd ynghylch addysg gynradd yng Ngheredigion er mis Mai 2007? (WAQ54249)

Jane Hutt: Diolch am eich ymholiad. Rwyf wedi trosglwyddo hwn i’m swyddogion a fydd yn ei ystyried o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac yn eich ateb yn unol â hynny.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad Capita Symonds am lwybrau mynediad ffermydd gwynt? (WAQ54239)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Mae Capita Symonds wedi cwblhau’r adroddiad ar fynediad at Ardaloedd Chwilio Strategol Canolbarth Cymru, ac mae’n cwblhau astudiaethau ar fynediad i Ardaloedd Chwilio Strategol Gogledd a De Cymru. Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at astudiaethau a gomisiynir gan Gymdeithas Ynni Gwynt Prydain er mwyn sicrhau bod Llywodraeth y Cynulliad a rhanddeiliaid allweddol eraill yn datrys y materion cludo sy’n gysylltiedig â datblygiadau fferm wynt arfaethedig yng Nghymru.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wariant diwylliannol ym Mhowys er mis Mai 2007? (WAQ54257)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wariant diwylliannol yng Ngheredigion er mis Mai 2007? (WAQ54258)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wariant diwylliannol yn sir Gaerfyrddin er mis Mai 2007? (WAQ54259)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wariant diwylliannol yn sir Benfro er mis Mai 2007? (WAQ54260)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wariant diwylliannol yng Ngwynedd er mis Mai 2007? (WAQ54261)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Ni fu’n bosibl cyfrif y gwariant diwylliannol fesul sir o’m portffolio, gan na choledir y gwariant fesul awdurdod lleol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatgelu dyddiad cyfarfod nesaf Grŵp y Gweinidogion Coedwigaeth a’r pynciau a drafodir yn y cyfarfod hwnnw? (WAQ54236)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Nid oedd unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gynnal cyfarfod â Grŵp y Gweinidogion Coedwigaeth.

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa drafodaethau y mae Grŵp y Gweinidogion Coedwigaeth wedi’u cael yn ddiweddar ynghylch y newidiadau posibl i ddyletswyddau ac i swyddogaethau’r Comisiwn Coedwigaeth? (WAQ54237)

Elin Jones: Nid yw Grŵp y Gweinidogion Coedwigaeth wedi trafod newidiadau posibl i ddyletswyddau na swyddogaethau’r Comisiwn Coedwigaeth.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl tir comin mewn Diwydiant Ffermio cynaliadwy yng Nghymru? (WAQ54244)

Elin Jones: Bydd ffermio da byw ar dir comin yng Nghymru yn elfen hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r heriau a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd mewn economi sy’n fwyfwy anwadal. Mae’n rhaid i’r dyfodol i ffermio ar dir comin gynnwys addasiad i bwysau’r farchnad a’r amgylchedd gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn chwarae rhan mewn bodloni’r galwadau am fwyd gan boblogaeth y byd sy’n cynyddu.

Mae 'Ffermio, Bwyd a Chefn Gwlad: Creu Dyfodol Cadarn’ yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn diogelu dyfodol cynaliadwy ar gyfer y diwydiannau sy’n seiliedig ar ffermio, cynhyrchu bwyd a thir a’r amgylchedd cefn gwlad yng Nghymru hyd at 2020.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae rheoli a defnyddio tir comin yn ffitio yng nghynigion Glastir? (WAQ54245)

Elin Jones: Mae rheoli tir comin yn gynaliadwy yn bwysig iawn i sicrhau bod y cynllun Glastir newydd yn dechrau cyflawni ei brif amcanion. Bydd rheoli tir comin yn dda yn cyfrannu at ddiogelu cronfeydd carbon mawndiroedd, ansawdd dŵr a rheoli meintiau, a’n targedau bioamrywiaeth. Oherwydd eu rôl bwysig, a’r materion sefydliadol penodol sydd ynghlwm wrth gyflawni trefniadau rheoli tir ar dir comin, mae gweithgor wedi’i sefydlu i nodi’r dull gorau i integreiddio’r ardaloedd hyn yn y cynllun newydd.   

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd effeithlonrwydd unrhyw system tagiau electronig ar gyfer defaid yn cael ei monitro wrth symud da byw? (WAQ54246)

Elin Jones: Mae Rheoliad 21/2004 y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i ddyfeisiau a darllenyddion gydymffurfio ag ISO (Sefydliad Safonau Rhyngwladol) 11784 / 11785 sy’n cwmpasu’r manylebau technegol. Mae’r Rheoliad hefyd yn darparu canllawiau technegol dewisol sy’n argymell y profion y dylai offer gydymffurfio â hwy.

Mae’r ymgynghoriad presennol yn cynnig y dylai dyfeisiau Dyfais Adnabod Electronig (EID) ac offer darllen swyddogol gydymffurfio â’r canllawiau ISO a’r canllawiau technegol, mae disgwyl i’r PAS (Manyleb sydd ar gael yn Gyhoeddus) 66 y Sefydliad Safonau Prydeinig ymgorffori cymeradwyaethau i’r safonau hyn cyn y caiff offer eu marchnata at ddibenion swyddogol.

Fel rhan o’r Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain, bydd y tîm AMLS (System Trwyddedu Symud Anifeiliaid) yn cadw rhestrau swyddogol o adnabod defaid ac offer ledled Prydain Fawr.

Mae’r ddau ohonom, ar wahân, yn aros am destun cyfreithiol i ddiwygio’r Rheoliad i alluogi 3ydd partïon i gofnodi gwybodaeth (bydd hyn yn galluogi marchnadoedd, lladd-dai, ffermydd mawr neu gontractwyr ddarllen y dyfeisiau ar ôl i’r defaid symud). Yn amlwg, bydd manylion y testun cyfreithiol yn dylanwadu ar y system adrodd am symudiadau yn y pendraw ond dylai’r manylion gael gwared ar aneffeithlonrwydd sylweddol o’r Rheoliad ar hyn o bryd sy’n gofyn am ddau ddarlleniad - un oddi ar y fferm a’r llall i’r cyrchfan.