Ymddygiad, Rheolau a Chanllawiau

Mae rheolau a gweithdrefnau'r Senedd wedi'u nodi yn y Rheolau Sefydlog, yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru (2006), a fe'u gorfodir gan y Llywydd, sef yr awdurdod uchaf yn y Senedd.

Mae dau gorff annibynnol allanol hefyd yn rhan o lunio canllawiau a rheolau ymddygiad y Senedd.

Mae rôl Comisiynydd Safonau yn cynnwys cynghori'r Senedd ar y Cod Ymddygiad Aelodau o'r Senedd a'r canllawiau cysylltedig, ac ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau o’r Senedd.

Y Bwrdd Taliadau sy'n gyfrifol am bennu tâl, lwfansau ac adnoddau Aelodau.

Rheolau Sefydlog

Caiff gweithdrefnau'r Senedd eu rheoli gan ei Rheolau Sefydlog.

Mae'r rheolau hyn yn ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol a nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Caiff y Pwyllgor Busnes, sy'n cael ei gadeirio gan y Llywydd, ddewis gwneud argymhellion ynglŷn â gweithdrefn y Senedd, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer adolygu'r Rheolau Sefydlog.

Canllawiau'r Llywydd

Rôl y Llywydd yw'r pwysicaf yn Senedd Cymru ac mae'n adlewyrchu rolau Llefarwyr a Llywyddion mewn seneddau ledled y byd.

Canllawiau ar y modd priodol o gynnal busnes y Senedd

Cafodd y canllawiau ar y modd priodol o gynnal busnes y Senedd, a gyflwynwyd gan y Llywydd dan Reol Sefydlog 6.17, eu casglu a’u cytuno ar 04 Mehefin 2019 yn dilyn ymgynghoriad â’r Pwyllgor Busnes. Gall y Llywydd, mewn ymgynghoriad â’r Pwyllgor Busnes, ddiwygio’r canllawiau ar unrhyw adeg.

Gosod busnes y Senedd a penderfyniadau o ran Ffurf Briodol​

Biliau Cydgrynhoi

Gall aelod o’r Llywodraeth gyflwyno Bil Cydgrynhoi at ddibenion cydgrynhoi deddfwriaeth sylfaenol bresennol, is-ddeddfwriaeth a chyfraith gyffredin (Rheol Sefydlog 26C.2).

Aelodau o'r Senedd

Cod Ymddygiad a Rheolau a Chanllawiau Cysylltiedig ar gyfer Aelodau o'r Senedd

Mae Cod Ymddygiad newydd ar Safonau Ymddygiad Aelodau o’r Senedd a chanllawiau cysylltiedig wedi dod i rym ar gyfer dechrau’r Chweched Senedd.

Mae’n sicrhau prosesau agored ac atebolrwydd angenrheidiol i atgyfnerthu hyder y cyhoedd yn uniondeb yr Aelodau o’r Senedd.

Rhagor o wybodaeth

Canllawiau Eraill

Mae'r canllawiau yma wedi cael eu paratoi i gynorthwyo Aelodau i ddeall gwahanol fathau o fusnes y Senedd.