Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc
Rydym yn cynnig amrywiaeth o adnoddau, rhaglenni, sesiynau ar-lein, a datblygiad proffessiynol a fydd yn helpu pobl ifanc a gweithwyr addysg proffesiynol i ddeall yn well sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru, a sut y gallant ddweud eu dweud drwy Senedd Cymru.

Sesiynau ar-lein
Trefnu sesiwn ar-lein
Gallwch gadw lle a chymryd rhan yn un o'n gweithdai a'n cyflwyniadau ar-lein am ddim, wedi'u hwyluso gan un o'n swyddogion addysg.
Mae ein sesiwn rithwir yn edrych ar y Senedd, ei phwerau, ei chynrychiolwyr a sut i bleidleisio yn 16 oed. Mae gennym sesiynau wedi'u teilwra ar gyfer pob grŵp oedran, sy'n cynnwys:
- Fy Mhleidlais Gyntaf: sy’n trafod etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2021, lle bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yng Nghymru.
- Cyflwyniad i'ch Senedd: dysgwch am ein gwaith yn y Senedd, pwy sy'n eich cynrychioli, pa benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yma yng Nghymru, dros Gymru, a sut y gallwch ddweud eich dweud.
- Sut i fod yn ddinesydd gweithredol: dysgwch pwy sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eich bywydau pob dydd yng Nghymru, a'r rôl y gall pobl ifanc ei chwarae fel dinasyddion gweithredol i fynd i'r afael â materion sy'n bwysig iddynt.
- Athrawon Dan Hyfforddiant: cyflwyniad i ddatganoli yng Nghymru, rôl a swyddogaeth y Senedd, a'r gwasanaeth y gallwn ei ddarparu i chi drwy gydol eich gyrfafod.
Rydym yn cynnig sesiynau boreol am 20 munud neu 45 munud bob bore neu sesiwn yn y prynhawn. Rydym hefyd yn cynnig sesiynau gyda'r nos i glybiau ieuenctid a chlybiau yn y Gymuned.
Cwblhewch y ffurflen archebu canlynol i archebu sesiwn i archebu sesiwn.
Tanysgrifiwch i gylchlythr Addysg y Senedd yma: http://eepurl.com/hisNUn.
Os oes gennych gwestiynau pellach, plis cysylltwch gyda ni ar: 0300 200 6565 neu e bostiwch: archebu@senedd.cymru.

Adnoddau
Adnoddau
Mae gennym amrywiaeth o adnoddau ar-lein i helpu athrawon a gweithwyr ieuenctid i addysgu pobl ifanc am y ffordd y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yma yng Nghymru.
Oedran: 11-18
Ein Senedd
Cyfres o adnoddau i helpu dysgwyr i ddeall esblygiad datganoli yng Nghymru, sy'n cwmpasu hanes a phwerau Senedd Cymru, rôl ein Haelodau, a phleidleisio yn Etholiadau Senedd Cymru.
Mae pob thema yn cynnwys adnoddau ystafell ddosbarth a gwybodaeth i'w defnyddio yn ystod gwersi ABCh, gwasanaethau ysgol, a lleoliadau grwpiau ieuenctid.
Mae'r adnoddau hyn ar gael hefyd fel cyfres o flogiau fideo y gellir eu defnyddio gartref.

Adnoddau ar-lein ar gyfer addysgu gartref
Pecyn CA2: Fy Myd, Fy Nyfodol
Pecyn addysgol sy'n addas i'w gyflwyno yn yr ystafell ddosbarth, neu ar-lein fel rhan o'ch cartref, neu gynnig dysgu o bell. Mae'r pecyn hwn yn dysgu plant sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud yng Nghymru.
Pecyn CA3: Fi, Fy Ardal, Fy Llais
Pecyn cymorth yw hwn i athrawon, gweithwyr ieuenctid neu rieni ei ddefnyddio gyda phlant 11-14 oed. P'un a yw'r pecyn yn cael ei ddefnyddio fel gweithgaredd ystafell ddosbarth neu fel rhywbeth i'w wneud gartref, ei nod yw darparu cyfleoedd creadigol ar gyfer dysgu.
Cyfnod Allweddol 4 – Ein Senedd Ni
Cyfres o bedwar flog youTube er mwyn rhoi'r cyfle i bobl ifanc ddysgu am waith y Senedd o adref.
Rhan Un: Hanes y Senedd
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y gwasanaethau a gynigiwn, neu i drefnu ymweliad, anfonwch e-bost at cyswllt@senedd.cymru neu ffoniwch 0300 200 6565.
I ymholi ynglŷn â'n hadnoddau Addysg anfonwch ebost at addysg@senedd.cymru.
Yn yr adran hon
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd

Oriel ar-lein o Hyrwyddwyr Cymunedol
Eleni, mae llawer o bobl gyffredin wedi bod yn gwneud pethau hynod anghyffredin i sicrhau lles a diogelwch ein cymunedau.

Ymgysylltu â'r Senedd ar-lein
Dysgwch am yr hyn sy'n digwydd yn eich Senedd a sut i ymgysylltu â hi ar-lein.