Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Rydych chi, pobl Cymru, wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn cynnal amrywiaeth o raglenni sy'n helpu i egluro sut y gallwch gymryd rhan yn ein gwaith, a llunio'r penderfyniadau sy'n effeithio ar ein bywydau.
Rydym yn cynnig gweithdai a chyflwyniadau am ddim i oedolion, grwpiau, sefydliadau, gweithwyr addysg proffesiynol a phobl ifanc, ynghyd ag amrywiaeth o ddeunyddiau ar-lein, sy'n darparu gwybodaeth ddiduedd am waith y Senedd a'n Haelodau.
Addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc
Cyrchwch ein hadnoddau, a chadwch le i'ch ysgol, coleg neu grŵp ar un o'n sesiynau ar-lein, a fydd yn helpu pobl ifanc a gweithwyr addysg proffesiynol i ddeall sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru, a sut y gallant ddweud eu dweud.


Senedd Ieuenctid Cymru
Mae gan Senedd Ieuenctid Cymru 60 aelod, sydd wedi cael eu hethol i gynrychioli a siarad dros bobl ifanc ledled Cymru. Dysgwch am eu gwaith, sut y gallwch gymryd rhan, ac, os ydych chi rhwng 11 a 18 oed, sut y gallech ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.
Sesiynau ymgysylltu ar-lein
Cymerwch ran yn un o’n gweithdai a'n cyflwyniadau ar-lein am ddim i ddysgu mwy am ein gwaith yn y Senedd, sut mae penderfyniadau sy'n effeithio ar ein bywydau yn cael eu gwneud, a sut y gallwch gymryd rhan.


Dweud eich dweud
Dysgwch sut rydyn ni'n eich cynnwys chi, pobl Cymru, yng ngwaith ein Pwyllgorau, i ddweud eich dweud ar y materion sydd o bwys i chi, a'n helpu ni i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Cysylltu â ni
I gadw lle, neu i drafod opsiynau, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion drwy ffonio 0300 200 6565 neu drwy e-bostio cysylltu@senedd.cymru
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd

Oriel ar-lein o Hyrwyddwyr Cymunedol
Eleni, mae llawer o bobl gyffredin wedi bod yn gwneud pethau hynod anghyffredin i sicrhau lles a diogelwch ein cymunedau.

Ymgysylltu â'r Senedd ar-lein
Dysgwch am yr hyn sy'n digwydd yn eich Senedd a sut i ymgysylltu â hi ar-lein.