Efallai na fydd ein gwefan ar gael ddydd Iau 29 Hydref oherwydd gwaith cynnal a chadw. Mae’n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra.
Gweithio i Gomisiwn y Senedd
Ar y dudalen hon, ceir gwybodaeth am wneud cais am swyddi a gweithio yng Nghomisiwn y Senedd.
Cod ymddygiad
Mae ein cod ymddygiad i staff yn amlinellu'r safonau a'r ymddygiadau a ddisgwylir gan bob gweithiwr. Mae hefyd yn egluro sut y gallai cael swydd arall neu gymryd rhan mewn gweithgareddau gwleidyddol wrthdaro â'ch swydd yng Nghomisiwn y Senedd.
Strategaeth Pobl a Diwylliant
Yn 2025, lansiwyd ein Strategaeth Pobl a Diwylliant. Mae'n egluro sut y byddwn yn cefnogi ein staff, yn cryfhau diwylliant ein gweithle, ac yn helpu i gyflawni Strategaeth a Chynllun Corfforaethol Comisiwn y Senedd.