Beth yw'r Cyfarfod Llawn?

Cyhoeddwyd 16/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/08/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd holl Aelodau'r Senedd yn mynd i'r Cyfarfod Llawn a dyma un o'r prif ddulliau sydd gan yr Aelodau i ddal Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd i gyfrif, i ddeddfu ar gyfer Cymru a chynrychioli eu hetholwyr.

Mae'r Canllaw i’r Cyfarfod Llawn (PDF, 304KB) yn rhoi cyflwyniad i weithdrefnau yn y Cyfarfod Llawn.

Y Siambr

Cynhelir y Cyfarfod Llawn yn y Siambr, sef siambr ddadlau'r Senedd, bob prynhawn Mawrth a Mercher. Fel rheol, bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 13.30 a bydd bob tro'n cael eu cynnal yn gyhoeddus.

Busnes Cynnar y Cyfarfod Llawn yn dilyn un o Etholiadau'r Senedd

Yn nyddiau cynnar Senedd newydd, rhaid i'r Aelodau gyfarfod yn y Cyfarfod Llawn i gytuno ar nifer o eitemau busnes pwysig. Mae hyn yn cynnwys ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd ac enwebu'r Prif Weinidog.

Trefnu busnes y Cyfarfod Llawn

Y Pwyllgor Busnes fydd yn trefnu'r pynciau sydd i'w trafod yn y Cyfarfod Llawn a byddant yn cael eu cyhoeddi bob wythnos yn y Cyfarfod Llawn. Cyhoeddir Agenda ar gyfer pob cyfarfod o'r fath.

Mathau o fusnes y Cyfarfod Llawn

Mae'n bosib ymdrin â gwahanol gategorïau a gwahanol fathau o fusnes yn y Cyfarfod Llawn, er enghraifft, cwestiynau, dadleuon, datganiadau a thrafodion deddfu.

Ymddygiad yn y Cyfarfod Llawn
Mae’r "Rheolau Sefydlog" yn ei gwneud yn ofynnol bod Aelodau’n ymddwyn yn briodol yn y Siambr ar bob adeg. Y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd fydd yn cadeirio’r Cyfarfod Llawn ac felly, nhw sy'n gyfrifol am gadw trefn.