Llywydd
Rôl y Llywydd yw'r un bwysicaf yn y Senedd.
Mae rôl Llywydd y Senedd yn adlewyrchu rolau Llefarwyr a Llywyddion mewn seneddau ledled y byd. Er y gall union gyfrifoldebau'r swydd amrywio o wlad i wlad, a bod gwahanol deitlau ganddynt, mae'r rôl yn debyg.
Y Llywydd sy'n cadeirio'r Cyfarfod Llawn, gan aros yn wleidyddol ddiduedd bob amser. Mae'r Llywydd yn chwarae rhan weithgar wrth gynrychioli buddiannau'r Senedd a buddiannau Cymru yn genedlaethol, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae hefyd yn cadeirio Comisiwn y Senedd.
Mae pob Llywydd yn dod â'i bersonoliaeth a'i bwyslais ei hun i'r swydd. Yr Aelod o'r Senedd dros Blaid Cymru, Elin Jones, yw 'r Llywyddy ar hyn o bryd, ac mae ganddi dair blaenoriaeth:
- Gwneud Llywodraeth Cymru yn fwy atebol i'r Senedd a phobl Cymru;
- Gwneud gwaith y Senedd yn fwy perthnasol ac amserol trwy drawsnewid y ffordd yr ydym yn rhannu gwybodaeth.
- Manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael i'r Senedd, a'i gryfhau trwy roi pobl Cymru wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y Llywydd drwy ddilyn @yLlywydd ar Twitter. Gallwch hefyd gysylltu â hi drwy e-bostio Llywydd@senedd.cymru.

Hefyd yn yr adran hon:
y Diweddaraf
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd

Canlyniadau’r Etholiad
Gallwch weld canlyniadau holl etholiadau'r Senedd, gan gynnwys isetholiadau.

Aelodau o'r Senedd
Gwybodaeth am eich Aelodau, sut i gysylltu â nhw, a'u rolau a chyfrifoldebau.

Goruchwylio'r Llywodraeth
Dysgwch fwy am sut rydym yn gwirio ac yn herio gwaith Llywodraeth Cymru.

Deddfu
Dysgwch am sut rydym yn deddfu ac yn newid cyfreithiau sy'n effeithio ar bawb yng Nghymru