Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Cael Profiad o Ddemocratiaeth ar Waith
Mae tryloywder wrth wraidd y Senedd
Cewch eistedd yn yr oriel gyhoeddus a gwylio democratiaeth ar waith. Mae'r 60 Aelod o'r Senedd oll yn cyfarfod yn y Siambr ar gyfer y Cyfarfod Llawn bob prynhawn Mawrth a phrynhawn Mercher (yn ystod tymor yr ysgol). Mae seddi ar gael ar y diwrnod fel arfer, ond mae modd neilltuo seddi ymlaen llaw.
Hefyd, gellir gwylio cyfarfodydd pwyllgor o'r orielau cyhoeddus. Gofynnwch wrth ddesg y dderbynfa yn y Senedd, cadwch lygad ar ein sgriniau gwybodaeth i'r cyhoedd, neu ewch i'n gwefan i gael gwybod beth sy’n digwydd heddiw.

Ewch ar daith dywys

Boed y bensaernïaeth, yr hanes neu fywyd gwleidyddol Cymru sy’n mynd â’ch bryd, cewch fwy o wybodaeth ar daith dywys o’r Senedd.
Bydd ein tywyswyr arbenigol, yn eu dull addysgiadol ond anffurfiol, yn rhoi ddarlun hynod ddiddorol i chi o fywyd a gwaith beunyddiol Senedd Cymru, a hynny ar daith sy'n para oddeutu 45 munud.
Ewch ar daith hunan dywys
Codwch iPad o'r dderbynfa neu lawrlwythwch ein harweinlyfr clywedol digidol ar eich dyfais chi a chynllunio eich taith eich hun o’r Senedd.
Gallwch wrando ar stori datganoli a democratiaeth a chlywed am bensaernïaeth, hanes, a chymwysterau gwyrdd yr adeilad eiconig hwn. Gallwch wrando ar gymaint neu cyn lleied ag y dymunwch, a hepgor rhannau neu wrando ar hap, gyda’r daith gyfan yn para rhwng 30 a 45 munud.

Ymweld ag Arddangosfa

Mae arddangosfeydd yn y Senedd yn arddangos Cymru ar ei gorau, yn amrywio o bartneriaethau â sefydliadau cenedlaethol allweddol i brosiectau wedi’u datblygu gyda chymunedau Cymru.
Cadwch lygad ar ein tudalen beth sy’n digwydd ar gyfer arddangosfeydd sydd yn yr arfaeth, prosiectau ar-lein, yn ogystal ag arddangosfeydd sy'n mynd ar daith i leoliadau yn eich ardal chi.
Dilyn stori datganoli
I nodi 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, rydym wedi datblygu llinell amser o gerrig milltir allweddol o daith Cymru i ddatganoli a'r llwyddiannau allweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Gellir gweld yr amserlen, a guradwyd mewn partneriaeth â Chanolfan Llywodraethiant Cymru, o amgylch y twndis, sef canolbwynt yr Oriel.

Rhannu eich barn

Rhowch wybod i ni sut rydych yn teimlo am faterion sy'n bwysig i chi a'ch cymuned.
Yn ystod eich ymweliad, cadwch lygad am ddau gerflun newydd gan Angharad Pearce Jones, artist a gof. Dyma leoedd i chi gymryd rhan mewn dadl a chyfrannu i waith y Senedd.
I Deuluoedd
Mae ein nodweddion sy'n ystyriol o deuluoedd yn cynnwys man gweithgareddau i blant, gyda theganau, llyfrau, taflenni, pensiliau a chreonau ar gyfer lliwio.
Rydym yn falch bod yr ystâd wedi’i dylunio mewn modd sy’n ystyried bwydo ar y fron, a chroesewir hynny unrhyw le ar yr ystâd, ond gellir dewis man preifat hefyd. Mae ein caffi'n cynnig cyfleusterau cynhesu ar gyfer llaeth babanod. Mae cyfleusterau newid cewynnau ar gael hefyd.

Siop a Chaffi

Llwyfan ar gyfer rhagoriaeth yn cynnwys ystod o gynhyrchion o Gymru ac wedi'u hysbrydoli gan Gymru.
O roddion moethus i'r llyfrau diweddaraf, o gardiau post panoramig i fwyd a diod orau Cymru, bydd rhywbeth i'w brynu i'ch atgoffa o'ch ymweliad. Hefyd, mae gennym gaffi cyfforddus y tu mewn sy'n cynnig ystod o ddiodydd poeth ac oer, tameidiau a theisennau a phwdinau sy'n tynnu dŵr o'ch dannedd. Gyda chyfleusterau Wi-Fi ardderchog, man eistedd mawr a golygfeydd prydferth o fae Caerdydd, y Senedd yw’r man cyfarfod delfrydol!
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd

Oriel ar-lein o Hyrwyddwyr Cymunedol
Eleni, mae llawer o bobl gyffredin wedi bod yn gwneud pethau hynod anghyffredin i sicrhau lles a diogelwch ein cymunedau.

Ymgysylltu â'r Senedd ar-lein
Dysgwch am yr hyn sy'n digwydd yn eich Senedd a sut i ymgysylltu â hi ar-lein.

Senedd.TV
Senedd TV yw sianel ddarlledu ar-lein y Senedd, ac yma gallwch wylio: dadleuon byw yn y Cyfarfodydd Llawn a’r cyfarfodydd pwyllgor, fideos wedi'u harchifo o holl drafodion y Senedd sy'n digwydd yn gyhoeddus, neu fideos o ddigwyddiadau ac amrywiaeth eang o fideos byr am y Senedd a'i gwaith.