Mynd i dudalen Busnes y Senedd chevron_right
Mynd i dudalen Sut rydym yn gweithio chevron_right
Crwydro’r adran Ymweld â ni chevron_right
Ar y cyd â’r Heritage and Cultural Exchange, mae tair arddangosfa newydd wedi’i llunio yn y Pierhead i roi cipolwg ar fywyd ym Mhorth Teigr a’r dociau o’r 1880au i’r 1950au.
Nod prosiect ffotograffiaeth Wanderlust yw cipio diwylliant cyfoethog a bywiog y gymuned Sipsiwn a Theithwyr trwy lens y camera. Dyddiadau: 3 Mehefin - 28 Awst 2025.
Yr haf hwn, mae'r Senedd yn falch o gynnal Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan, arddangosfa newydd a grëwyd gan Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat a chylchgrawn Al Naaem. Mae'r prosiect yn deyrnged bwerus i gryfder, gwydnwch a harddwch treftadaeth Somalia. Dyddiadau: 22 Gorffennaf - 1 Medi 2025.
Camwch i mewn galon treftadaeth Cymru a dewch draw i Dŷ Mawr Wybrnant, ffermdy o'r 16eg ganrif sydd wedi'i leoli yng nghwm Wybrnant ger Penmachno, Conwy, Gogledd Cymru. Y cartref hanesyddol hwn yw man geni'r Esgob William Morgan, y gwnaeth ei gyfieithiad o'r Beibl i'r Gymraeg ym 1588 - 'Y Beibl Cyssegr-lan' – sicrhau parhad yr iaith Gymraeg. Dyddiadau: 5 Medi - 30 Hydref 2025.
Mae Cymru: Cartref Oddi Cartref yn dwyn ynghyd straeon a gasglwyd o blith y cymunedau amrywiol sydd wedi dod i Gymru o bedwar ban byd. Dyddiadau: 24 Mai – 12 Gorffennaf 2025.
Fel rhan o Ddiwrnod Celfyddyd Fotanegol Fyd-eang (BAWW) ar 18 Mai 2025, mae Cymdeithas Darlunwyr Botanegol Cymru (WSBI) yn falch o gyflwyno’r arddangosfa hon sy’n dathlu ein planhigion treftadaeth lleol. Dyddiadau: 17 Ebrill – 28 Mai 2025.
Sefydliad dielw yw Monumental Welsh Women sydd â’r nod o sicrhau bod cyfraniad menywod i hanes a bywyd Cymru yn cael ei gydnabod. Yn 2016, dechreuodd y grŵp ymgyrchu i godi pum cerflun o fenywod nodedig o Gymru mewn gwahanol leoliadau o amgylch Cymru. Dyddiadau: 22 Chwefror - 7 Mai 2025.
Mae’r Senedd a’r Pierhead yn gartref i raglen reolaidd o arddangosfeydd, sy’n rhoi’r cyfle i chi godi proffil eich sefydliad neu gymuned a’i ddyheadau a’i bryderon.
Pan agorodd adeilad y Senedd am y tro cyntaf, comisiynwyd pedwar artist i greu cerfluniau fel rhan o bensaernïaeth yr adeilad. Yn fwy diweddar, comisiynwyd yr artist o Gymru Angharad Pearce Jones i greu dau gerflun ar gyfer prif fannau cyhoeddus y Senedd i alluogi pobl i gysylltu â’r Senedd a’r Aelodau sy’n eu cynrychioli, a dysgu amdanynt.
Mae'n hawdd dod o hyd i ystâd y Senedd. Gallwch gyrraedd yn y car, ar y trên, mewn bws, neu ar feic.
Dysgwch am yr hyn sy'n digwydd yn eich Senedd a sut i ymgysylltu â hi ar-lein.
Dysgwch am arddangosfeydd, gweithgareddau, teithiau a digwyddiadau sy’n digwydd yn y Senedd a'r Pierhead.
Mae cynnal digwyddiad ar ystâd y Senedd yn rhoi’r cyfle ichi godi proffil eich sefydliad a’r materion a’r pryderon sy’n berthnasol iddo.