- Dydd Llun i ddydd Gwener: 09:00–16:30
- Penwythnosau a Gwyliau Banc: 10:30–16:30
- Mynediad olaf: 16:00
Efallai y bydd yr adeilad yn agor yn gynharach neu’n aros ar agor yn hwyrach i ymwelwyr sy'n mynd i sesiynau’r Cyfarfod Llawn neu gyfarfodydd pwyllgorau.
Noder y gall oriau agor, teithiau tywys, arddangosfeydd a mynediad i rannau o'r adeilad newid ar fyr rybudd oherwydd busnes Seneddol.
Mae'r Senedd wedi'i lleoli ym Mae Caerdydd. Gallwch gyrraedd yma ar droed, ar feic, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn car.
Beic
Mae dau leoliad ar gyfer parcio beiciau ar yr ystad, ger mynedfeydd y Pierhead a Thŷ Hywel.
Gallwch ddod o hyd i fanylion llwybrau beicio lleol ar y map cerdded a beicio Caerdydd.
Bws
Mae safle bws Canolfan Mileniwm Cymru 3 munud ar droed o fynedfa’r Senedd. Gall ymwelwyr ddefnyddio'r gwasanaethau bws canlynol:
- Bws y Bae rhif 6, 8 a 305 o Gyfnewidfa Bysiau Caerdydd, Sgwâr Canolog
- 305 o Ddinas Powys trwy Benarth
- Gwasanaeth Cylch y Ddinas 1 a 2
Gallwch ddod o hyd i fanylion y llwybrau a'r amseroedd yn Bws Caerdydd
Trên
Mae gorsaf Bae Caerdydd 10 munud ar droed o fynedfa'r Senedd.
Mae gwasanaethau'n rhedeg o Bontypridd a Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Traveline.
Ffordd
O'r gorllewin, gadewch yr M4 wrth gyffordd 33, dilynwch yr A4232 i Fae Caerdydd a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Senedd Cymru, CF99 1SN.
O'r dwyrain, gadewch yr M4 wrth gyffordd 29, dilynwch yr A48 ac yna’r A4232 i Fae Caerdydd a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Senedd Cymru, CF99 1SN.
Parcio hygyrch
Mae parcio hygyrch ar gael, trwy drefnu ymlaen llaw.
Yn achos ymwelwyr sy'n mynd i gyfarfodydd gydag Aelodau o’r Senedd, Gweinidogion Cymru neu swyddogion, dylid gwneud trefniadau â’u swyddfeydd.
Yn achos ymwelwyr sy’n mynd i sesiynau’r Cyfarfod Llawn, cyfarfodydd pwyllgor, neu ymweliadau wedi'u trefnu ymlaen llaw â'r Senedd, gellir trefnu parcio drwy gysylltu â ni.
Mae lifft allanol ar gael i ymwelwyr anabl yn ein maes parcio hygyrch y tu allan i’r Senedd.
Fel arfer, mae’n hanfodol rhoi o leiaf 24 awr o rybudd ynghyd â gwybodaeth am y cerbyd a'r gyrrwr. Rhaid i ymwelwyr ddangos eu bathodyn glas wrth gyrraedd.
Parcio ceir
Mae'r maes parcio agosaf, sef maes parcio aml-lawr Q-Park ar Stryd Pierhead, 4 munud i ffwrdd ar droed o fynedfa'r Senedd. Gellir cael gostyngiad drwy drefnu ymlaen llaw a defnyddio'r cod 'SEN'. Efallai y bydd parcio ar y stryd, talu ac arddangos ar gael ar Rodfa’r Harbwr neu mae maes parcio talu ac arddangos oddi ar Stryd Stuart.
Parcio bws
Cysylltwch â ni i gael map sy'n dangos mannau gollwng bysiau.
Tacsi
Mae safleoedd tacsi wedi'u lleoli ledled y ddinas, gan gynnwys y tu allan i orsaf reilffordd Caerdydd Canolog. Mae'r safle tacsis agosaf at ystad y Senedd ar Stryd Bute, ger Cei'r Fôr Forwyn.
Gan ein bod yn Senedd weithredol, rhaid i bob ymwelydd fynd trwy sgan diogelwch a chwilio bagiau cyn y gallant fynd i mewn i'r adeilad. Mae'r broses hon yn debyg i sgrinio ar ffurf maes awyr ac mae’n cael ei chynnal gan ein staff diogelwch hyfforddedig.
Fel arfer, dim ond ychydig funudau y dylai hyn eu cymryd ond dylech ganiatáu tua 15 munud. Efallai y bydd ciw byr y tu allan i'r adeilad cyn mynd i mewn.
Dewch â chyn lleied o eiddo â phosibl i’r adeilad gyda chi. Dysgwch beth allwch a beth na allwch ddod â chi i'r Senedd.
Os bydd angen gadael yr adeilad mewn argyfwng, bydd ystad y Senedd yn canu larwm tân. Bydd aelod o staff yn eich tywys i'ch allanfa agosaf.
Ein nod yw i bawb, p'un a ydynt yn gweithio yn y Senedd neu'n ymweld â'r Senedd, brofi amgylchedd o urddas a pharch. Mae hyn yn golygu bod disgwyliad i chi a'r bobl rydych chi'n rhyngweithio â nhw deimlo'n ddiogel, yn barchus ac yn gyfforddus. Nid oes lle i ymddygiad sy'n effeithio'n andwyol ar urddas eraill yn y Senedd. Os byddwch yn dyst i unrhyw beth sy'n mynd yn groes i'r disgwyliadau yr ydym wedi'u gosod, rhowch wybod i aelod o staff y Senedd. Gallwch ddod o hyd i ni yn y Dderbynfa neu yr Adran Diogelwch. Byddwn yn dilyn y polisi a amlinellir isod, a allai gynnwys cofnodi'r digwyddiad ar gyfer cynnal ymchwiliad pellach.
Disgwyliadau ymddygiad ar gyfer aelodau o'r cyhoedd sy'n ymgysylltu â’r Senedd
Liftiau a mynediad
Mae yna lifftiau, mynediad di-risiau, a mynediad ramp ledled ystad y Senedd. Mae cadeiriau olwyn ar gael i ymwelwyr eu defnyddio ar gais.
Mae gyda ni ddarpariaeth bwrpasol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn yr orielau gwylio cyhoeddus.
Toiledau hygyrch
Yn y Senedd, mae toiledau hygyrch, cyfleuster Changes Places gyda mainc newid a theclyn codi i oedolion, toiledau i bobl ag anableddau cerdded, a thoiledau hygyrch sy’n niwtral o ran rhywedd.
Yn y Pierhead, mae toiled hygyrch ar y llawr gwaelod a thoiledau sy’n niwtral o ran rhywedd ar y llawr cyntaf.
Yn Nhŷ Hywel, mae toiledau hygyrch i gadeiriau olwyn ar bob llawr. Mae’r rhain hefyd yn doiledau sy’n niwtral o ran rhywedd.
Parcio
Mae parcio hygyrch ar gael. Cysylltwch â ni ymlaen llaw i drefnu hyn.
Braille
Ry’n ni’n darparu arwyddion mewn Braille ac mae rhai deunyddiau ar gael mewn Braille. Gofynnwch yn y dderbynfa yn ystod eich ymweliad.
Dolenni clyw
Mae gan bob derbynfa yn ein hadeiladau a’n swyddfeydd ddolenni sain.
Mae offer symudol dros dro ar gael ar gyfer mannau eraill megis y Neuadd, yr Oriel, Prif Neuadd y Pierhead ac ystafelloedd cyfarfod eraill ar draws yr ystad. Mae’r clustffonau cyfieithu yn chwyddo’r sain yn y Siambr a’r Ystafelloedd Pwyllgora.
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a gwasanaeth trosglwyddo fideo
Os ydych chi'n ymweld â'r Senedd i fynd ar daith dywys ac angen dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL), gallwn ni fel arfer drefnu hyn ichi os ydych chi’n cysylltu â ni ymlaen llaw.
Mae gwasanaeth trosglwyddo fideo ar gael i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain wrth y dderbynfa yn adeilad y Senedd.
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a Senedd TV
Mae Iaith Arwyddion Prydain (BSL) byw ar Senedd TV yn ystod y Cyfarfod Llawn a’r sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog.
Mae Iaith Arwyddion Prydain ar Senedd TV hefyd ar gyfer unrhyw fusnes sy’n ymwneud â Iaith Arwyddion Prydain.
Cŵn cymorth
Mae croeso i gŵn cymorth ar yr ystad.
Lle tawel
Mae ystafell dawel ar gael yn y Senedd ar gyfer gweddi neu fyfyrdod, ac fel rhywle cyfforddus ar gyfer ymwelwyr gofidus.
Cymorth ychwanegol
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi, yn enwedig os bydd angen gadael yr adeilad mewn argyfwng, fe allwn ni greu Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng (neu PEEP) ichi. Cysylltwch â ni cyn ichi gyrraedd.
Gwasanaethau ffôn
Os ydych chi’n cysylltu â ni dros y ffôn, rydym yn croesawu galwadau trosglwyddo a thestun i leferydd gan wasanaethau fel Relay UK. Gallai’r gwasanaeth hwn fod o gymorth i bobl sy’n fyddar/â nam ar eu clyw, neu sydd â nam ar eu lleferydd.
Mae’r Senedd wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth Interpreters Live!Gall cwsmeriaid sy’n ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain ein ffonio drwy’r gwasanaeth hwn, sydd ar gael ar alw yn ystod oriau agor arferol ein Canolfan Gyswllt. Maen nhw wedi’u cysylltu â ni trwy Ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.
Mae canllawiau i ddefnyddwyr ar gael i gefnogi’r rheini sy’n defnyddio gwasanaeth InterpretersLive!. Dewiswch o blith yr opsiynau i gael rhagor o wybodaeth.
I gael gwybodaeth manylach am hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Dydd Sadwrn a dydd Llun yw ein diwrnodau ymweld tawelach. Mae gennym ystafell dawel y mae croeso i ymwelwyr ei defnyddio.
Gall ein hadnoddau eich helpu i ddeall pa brofiadau synhwyraidd i'w disgwyl yn ystod eich ymweliad â'r Senedd.
Gall plant fwynhau ardal chwarae gyda theganau, chwarae synhwyraidd a map llawr enfawr o Gymru.
Dewch ar Lwybr Archwilio’r Senedd, yn rhad ac am ddim, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer plant 5-7 oed i ddarganfod nodweddion allweddol yr adeilad mewn ffordd ddifyr a rhyngweithiol.
Caffi’r Senedd yw’r cyntaf yng Nghymru i gael ei achredu gan y Safon Caffi Teuluol Kids in Museums, sef nod o ragoriaeth ar gyfer caffis croesawgar sy’n canolbwyntio ar deuluoedd mewn mannau diwylliannol. Mae'r caffi yn cynnig:
- Rydym yn croesawu bwydo ar y fron
- Cynhesu poteli
- Ffynnon ddŵr am ddim
- Cadeiriau uchel
- Cyfleusterau newid babanod gerllaw a chyfleuster ystafell ymolchi teuluol
- Wi-Fi am ddim
Mae dwy ystafell dawel ar gael.
Mae dwy ystafell dawel ar gael i'w defnyddio fel ystafelloedd gweddïo. Mae matiau gweddïo ar gael.
Os bydd y bwa datgelu metel yn canfod rhywbeth metel, bydd staff yn defnyddio synhwyrydd llaw i sganio eich corff. Gallwch ofyn i swyddog diogelwch o'r un rhywedd gyflawni'r dasg hon.
Rhaid rhoi kirpans i’r tîm Diogelwch pan fyddwch yn cyrraedd. Bydd kirpan bach yn cael ei ddarparu i ymwelwyr am gyfnod eich ymweliad. Bydd rhif adnabod unigryw yn cael ei roi i chi i sicrhau eich bod yn cael y kirpan cywir ar ôl i chi ddychwelyd.
Yn y Senedd, fe welwch chi:
- Caffi gyda bwyd a diod o ffynonellau lleol.
- Siop anrhegion yn cynnwys cynhyrchion a wnaed yng Nghymru.
- Amrywiaeth o gyfleusterau toiledau, gan gynnwys newid babanod, niwtral o ran rhywedd a chyfleuster ‘Changing Places’ sydd â gwely newid oedolion a theclyn codi.
- Wi-Fi am ddim.
- Ffynnon ddŵr am ddim.
- Ystafell cymorth cyntaf gyda diffibriliwr.
Sylwch nad oes gennym ystafell gotiau.
Oes gennych chi gwestiwn cyn eich ymweliad? Cysylltwch â'n tîm, rydym yn hapus i helpu.