Is-ddeddfwriaeth
Is-ddeddfwriaeth
Cyfraith sy’n cael ei gwneud gan Weinidogion (neu gyrff eraill) gan ddefnyddio pwerau a roddir iddynt gan ddeddfwriaeth sylfaenol, fel Deddf gan Senedd Cymru, yw is-ddeddfwriaeth.
Gelwir y ddeddfwriaeth sylfaenol yn Ddeddf alluogi, gan ei bod yn galluogi’r is-ddeddfwriaeth i gael ei gwneud. Yng Nghymru, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud is-ddeddfwriaeth gan ddefnyddio pwerau a roddir iddynt mewn deddfwriaeth sylfaenol megis Deddfau’r Senedd, Mesurau’r Cynulliad a Deddfau Senedd y DU.
Cyfeirir at is-ddeddfwriaeth weithiau fel deddfwriaeth ddirprwyedig, am fod y Ddeddf alluogi yn dirprwyo’r pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth. Cyfeirir hefyd at is-ddeddfwriaeth fel deddfwriaeth eilaidd.
Enghraifft o’r ffordd y mae Deddf alluogi yn dirprwyo pwerau gwneud is-ddeddfwriaeth
Mae adran 33(3) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn datgan:
“Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cymwysterau a’r amodau eraill sydd i’w bodloni gan unigolyn y caniateir iddo fod yn arolygydd.”
Y Ddeddf alluogi yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae adran 33(3) o'r Ddeddf honno yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (ar ffurf rheoliadau) ynghylch cymwysterau arolygwyr gofal cymdeithasol. Heb y pŵer galluogi hwnnw, ni allai Gweinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth ynghylch cymwysterau arolygwyr gofal cymdeithasol.
Offerynnau Statudol
Gwneir y rhan fwyaf o is-ddeddfwriaeth yng Nghymru ar ffurf offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau neu orchymyn. Offerynnau statudol Cymreig yw offerynnau statudol sy’n bodloni’r diffiniad a nodir yn adran 37A o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Dim ond Gweinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall y gellir eu gwneud.
Mae’r Senedd yn craffu ar offerynnau statudol ac offerynnau statudol Cymreig fel ei gilydd. Felly, rydym yn defnyddio’r term “offeryn statudol” i olygu offerynnau statudol ac offerynnau statudol Cymreig, oni nodir yn glir fel arall.
Mae’r prosesau ar gyfer gwneud a chyhoeddi offerynnau statudol Cymreig wedi’u nodi yn Neddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Dyma’r gweithdrefnau sy’n cael eu defnyddio gan y Senedd i graffu ar offerynnau statudol Cymreig:
Fodd bynnag, nid yw rhai offerynnau statudol yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn, ac mae eraill yn ddarostyngedig i weithdrefnau penodol sydd wedi’u nodi yn y Ddeddf alluogi. Mae rhai offerynnau statudol yn cael eu gwneud ar y cyd gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU. Rhoddir rhagor o wybodaeth isod.
Rhagor o wybodaeth am y newidiadau i’r labeli a roddir i weithdrefnau craffu’r Senedd ar gyfer offerynnau statudol Cymreig, a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2026.
Ni wneir is-ddeddfwriaeth drwy offeryn statudol ond pan bennir hyn yn y Ddeddf alluogi, felly gwneir rhywfaint o is-ddeddfwriaeth mewn fformat gwahanol (er enghraifft codau ymarfer, cynlluniau neu ganllawiau). Mae’r Senedd yn craffu ar offerynnau statudol ac offerynnau statudol Cymreig fel ei gilydd, a chaiff graffu ar is-ddeddfwriaeth arall hefyd.
Y “pwyllgor cyfrifol”
Mae Rheolau Sefydlog y Senedd yn nodi bod rhaid i bwyllgor ystyried yr holl offerynnau statudol neu offerynnau statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol eu gosod gerbron y Senedd. “Y pwyllgor cyfrifol” yw’r enw ar y pwyllgor hwn. Y pwyllgor cyfrifol yn y Seithfed Senedd yw’r Pwyllgor Deddfwriaeth.
Os yw’r Pwyllgor yn fodlon ar offeryn statudol, bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi’r offeryn. Cyfeirir at hyn fel “adroddiad clir”.
Os nad yw’r Pwyllgor yn fodlon ar offeryn statudol, bydd yn cyhoeddi adroddiad yn cynnwys pwyntiau adrodd a nodir yn y Rheolau Sefydlog a ganlyn:
- Rheol Sefydlog 21.2 – er enghraifft, materion a allai godi amheuaeth ynghylch cyfreithlondeb offeryn statudol neu a yw testun offeryn statudol wedi’i lunio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rhaid i’r Pwyllgor drafod a chyflwyno adroddiad ar y materion hyn, a elwir yn “bwyntiau adrodd technegol”.
- Rheol Sefydlog 21.3 – er enghraifft, materion sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Senedd, fel offeryn statudol nad yw’n gweithredu polisi yn y ffordd a nodwyd neu yr ystyrir ei fod yn wleidyddol gynhennus neu’n arwyddocaol. Caiff y Pwyllgor drafod a chyflwyno adroddiad ar y materion hyn, a elwir yn “bwyntiau adrodd o ran rhinweddau”.
Mae adroddiadau o’r fath yn hysbysu’r Senedd am unrhyw faterion sy’n codi o dan y Rheolau Sefydlog hynny mewn perthynas ag offerynnau statudol. Fodd bynnag, nid yw adroddiadau’r Pwyllgor yn cyfrif fel unrhyw fath o feto.
O dan Reol Sefydlog 21.7(i), caiff y Pwyllgor hefyd graffu ar is-ddeddfwriaeth arall nad yw’n cael ei gwneud gan offeryn statudol (er enghraifft, codau ymarfer, cynlluniau neu ganllawiau).
O dan Reol Sefydlog 21.4, rhaid i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad o fewn 20 niwrnod i osod yr offeryn statudol gerbron y Senedd.
Mae’r gweithdrefnau sy’n berthnasol i ystyried offerynnau statudol gan y Senedd wedi’u nodi yn Rheol Sefydlog 27.
Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth hefyd yn craffu ar Filiau, memoranda cydsyniad deddfwriaethol a materion eraill sydd o fewn ei gylch gorchwyl. Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalennau gwe’r Pwyllgor.
Eitemau o is-ddeddfwriaeth yn ôl gweithdrefn graffu
Offerynnau statudol Cymreig sy'n ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo'r Senedd
O dan y weithdrefn gymeradwyo, caiff yr offeryn statudol ei osod gerbron y Senedd ar ffurf ddrafft, ac ni all gael effaith oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r drafft.
Offerynnau statudol Cymreig sy'n ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau'r Senedd
O dan y weithdrefn gadarnhau, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud yr offeryn statudol ac yna’n ei osod gerbron y Senedd. Fodd bynnag, ni all yr offeryn statudol barhau i fod yn gyfraith oni bai bod y Senedd yn ei gymeradwyo.
Offerynnau statudol Cymreig sy'n ddarostyngedig i weithdrefn annilysu'r Senedd
O dan y weithdrefn annilysu, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud yr offeryn statudol ac yna'n ei osod gerbron y Senedd. Yna, mae gan y Senedd gyfnod o 40 diwrnod i annilysu'r offeryn statudol.
Offerynnau statudol Cymreig nad ydynt yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefnau
Nid yw rhai offerynnau statudol Cymreig yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefnau ffurfiol ac eithrio bod rhaid eu gosod gerbron y Senedd.
Eitemau o is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau eraill
Rhyw gyfran fechan o is-ddeddfwriaeth yn destun gweithdrefnau penodol a amlinellir yn y ddeddf alluogi.
Is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gweithredu gyda'i gilydd
Weithiau, bydd y ddeddf alluogi yn dweud bod yn rhaid i is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud ar y cyd, gyda Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gweithredu gyda'i gilydd.
Is-ddeddfwriaeth arall a gwybodaeth yn ei chylch
Is-ddeddfwriaeth sy'n torri'r “rheol 21 diwrnod”
Roedd yr is-ddeddfwriaeth hon yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol (os y’i gwnaed cyn mis Ionawr 2026) neu'r weithdrefn annilysu (os y’i gwnaed ar ôl Ionawr 2026), ac ni chafodd ei gosod gerbron y Senedd o leiaf 21 diwrnod cyn iddi ddod i rym, gan dorri'r “rheol 21 diwrnod”.
Offerynnau Statudol a osodwyd yn rhy hwyr yn y Chweched Senedd i'r Pwyllgor graffu arni
Gosodwyd y ddeddfwriaeth a ganlyn gerbron y Senedd yn rhy hwyr i ganiatáu iddi gael ei hystyried gan Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Chweched Senedd.