Cyfarfod Llawn

Cyfarfod o'r Senedd gyfan yw'r Cyfarfod Llawn, a gynhelir yn Siambr drafod y Senedd.

Y Llywydd sy'n cadeirio'r Cyfarfod Llawn a dyma'r prif fforwm i Aelodau'r Senedd gyflawni eu rôl fel cynrychiolwyr sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd.

Nod y rôl hon yw cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, deddfu ar gyfer Cymru, cytuno ar drethi i Gymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Maent yn gwneud hynny drwy gyflwyno cwestiynau i Ysgrifenyddion y Cabinet a'r Gweinidogion, cynnal dadleuon a phleidleisio ar faterion sy'n effeithio ar fywyd bob dydd yng Nghymru.

Cynhelir y Cyfarfod Llawn ddwywaith yr wythnos ar ddydd Mawrth a dydd Mercher ac mae'n agored i'r cyhoedd i ddod i wylio. Mae Cofnod y Trafodion, sef trawsgrifiad o bob Cyfarfod Llawn, ar gael a gellir chwilio drwyddynt yn llawn. Gallwch hefyd wylio'r Cyfarfod Llawn yn fyw neu wylio hen gyfarfodydd eto ar wefan Senedd TV.

I gael cyflwyniad defnyddiol i weithdrefnau'r Cyfarfod Llawn, gallwch lawrlwytho ein Canllaw i'r Cyfarfod Llawn (PDF, 364kb). Gallwch ddarllen mwy am y mathau o fusnes, sut mae'r busnes yn cael ei drefnu, a'r rheolau y mae'n rhaid i Aelodau o’r Senedd eu dilyn yma.

Dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch

Y Cofnod

Mae Cofnod y Trafodion yn ei hanfod yn drawsgrifiad gair am air o drafodion cyfarfodydd llawn y Senedd. Mae'n cofnodi'r hyn a gafodd ei ddweud yn ogystal â'r hyn y penderfynwyd arno.​

Caiff pob gair sy'n cael ei siarad a phob penderfyniad a wneir yn y Siambr eu cofnodi a'u cyhoeddi ar ein gwefan o fewn 24 awr. Bydd fersiwn drafft ar gael yn ystod y cyfarfodydd hefyd, sy'n cael eu diweddaru bob 15 munud.

 

Cwestiynau