Caiff Aelodau'r Senedd wneud cais ar unrhyw adeg i ofyn Cwestiwn Brys i Aelod o Lywodraeth Cymru neu Gomisiwn y Senedd yn ystod Cyfarfod Llawn. Er hynny, dim ond os bydd y Llywydd (neu'r Dirprwy Lywydd os yw'r cwestiwn yn ymwneud â Chomisiwn y Senedd) yn fodlon bod y cwestiwn o bwys cenedlaethol brys.
Cyflwynwyd y Cwestiynau Brys ar eu ffurf newydd yn y Cynulliad ym mis Mai 2017, ynghyd â Chwestiynau Amserol. Mae'r gweithdrefnau newydd hyn yn disodli'r drefn flaenorol ar gyfer gofyn Cwestiynau Brys.
Cwestiynau Brys 2022
Dyddiad Cyflwyno | Cwestiwn Brys | Penderfyniad |
---|---|---|
16 Ionawr 2023 |
I ofyn i Weinidog yr Economi John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o gyhoeddiad diweddar Liberty Steel? |
Heb ei ganiatáu |
12 December 2022 |
I ofyn i'r Prif Weinidog A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnal y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd brys yn dilyn tywydd eithafol a galw digynsail ledled Cymru sydd wedi cyfyngu ar allu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ymateb i alwadau mewn modd diogel ac amserol? |
Heb ei ganiatáu |
6 Rhagfyr 2022 |
I ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Janet Finch-Saunders (Aberconwy) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys ar nifer difrifol yr achosion o strep A a'r dwymyn goch sy'n cylchredeg yng Nghymru? |
Heb ei ganiatáu |
28 Mehefin 2022 |
I ofyn i'r Prif Weinidog A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fwriad Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017? |
Heb ei ganiatáu |
28 Mawrth 2022 |
I ofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Janet Finch-Saunders (Aberconwy) A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddarparu ymateb brys i'r gyfres o fethiannau difrifol ar gyfer cannoedd o deithwyr rheilffordd a oedd yn teithio i dde Cymru ddoe?
|
Heb ei ganiatáu |
9 Mawrth 2022 |
I ofyn i Weinidog yr Economi A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brosiect y Cymoedd Technoleg ymhellach i gyfarfod craffu ar y gyllideb yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a ddywedodd y byddai'r prosiect yn cael ei gau? |
Heb ei ganiatáu |
25 Chwefror 2022 |
I ofyn i'r Prif Weinidog A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad brys am y goblygiadau i Gymru o ymosodiad Rwsia ar Wcráin? |
Heb ei ganiatáu |
25 Chwefror 2022 | I ofyn i'r Prif Weinidog
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar yr argyfwng yn Wcráin? |
Heb ei ganiatáu |
24 Chwefror 2022 |
I ofyn i'r Prif Weinidog Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith ymosodiad Rwsia ar Wcráin ar ddinasyddion a busnesau Cymru? |
Wedi ei ganiatáu |
Cwestiynau Brys 2021
Dyddiad Cyflwyno | Cwestiwn Brys | Penderfyniad |
---|---|---|
6 Rhagfyr 2021 |
I ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Pa adnoddau a chanllawiau y mae Llywodraeth Cymru'n eu darparu i awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol eraill i nodi pryderon posibl ynghylch diogelu plant, yn dilyn marwolaeth Arthur Labinjo-Hughes yn Solihull? |
Heb ei ganiatáu |
19 Hydref 2021 |
I ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Pa effaith y bydd adolygiad o ffyrdd Llywodraeth Cymru yn ei chael ar welliannau sydd eisoes ar y gweill ar yr A40: ffordd osgoi Llanddewi Felffre i Redstone Cross? |
Heb ei ganiatáu |
6 Gorffennaf 2021 | I ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd
Janet Finch-Saunders (Aberconwy) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i’r galwadau gan arweinwyr y 22 o awdurdodau lleol Cymru i Lywodraeth Cymru adolygu pwerau a chylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru? |
Heb ei ganiatáu |
26 Mai 2021 |
I ofyn i'r Prif Weinidog Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith bosibl cytundeb masnach heb dariffau na chwotâu gydag Awstralia ar ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru? |
Heb ei ganiatáu |
26 Mai 2021 |
I ofyn i'r Prif Weinidog Tom Giffard (Gorllewin De Cymru) Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gymuned Mayhill yn dilyn digwyddiadau nos Iau ac i atal y golygfeydd pryderus hyn rhag digwydd eto? |
Heb ei ganiatáu |