Roedd
Joyce Watson yn Aelod o’r Senedd rhwng Mai 2016 ac Ebrill 2026. Hwn oedd ei
bywgraffiad pan fu adael.
Hanes personol
Mae
Joyce Watson yn briod ac mae ganddi dri o blant, un ŵyr ac un wyres.
Bu'n
ddisgybl yn ysgolion Maenorbŷr,
Cosheston ac Aberteifi. Aeth Joyce yn ôl i fyd addysg a hithau'n oedolyn, gan
astudio yng Ngholeg Penfro a Phrifysgol Abertawe.
Cefndir proffesiynol
Gwasanaethodd
Joyce fel Cynghorydd Sir yng Nghyngor Sir Penfro rhwng 1995 a 2004.
Cyn
cael ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, roedd Joyce yn rheoli Clymblaid
Genedlaethol Menywod Cymru. Roedd yn aelod uwch o'r Grŵp Cyllidebau ar sail Rhyw, Cymru a Grŵp Cyfeirio Cydraddoldeb y GIG.
Mae
Joyce wedi rhedeg nifer o fusnesau – tafarndai, bwytai a siopau manwerthu – yng
Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Hanes gwleidyddol
Cafodd
Joyce ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 2007.
Mae
wedi cynrychioli'r Cynulliad ar sawl corff rhyngwladol: cangen Cymru o
Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad (Cadeirydd); y Cynulliad Seneddol
Prydeinig-Gwyddelig; a Chyngres Rhanbarthau Cyngor Ewrop.
Mae
Joyce yn hyrwyddo ymgyrch genedlaethol y Rhuban Gwyn yn erbyn trais domestig,
ac mae'n un o sylfaenwyr grŵp
y Cynulliad yn erbyn masnachu pobl. Mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys
hyrwyddo'r diwydiant adeiladu ac adfywiad economaidd yng nghefn gwlad – trwy
weithio i wella sgiliau, ehangu prentisiaethau a chefnogi busnesau yng nghefn
gwlad.