Gwybodaeth am hawlfraint ac amodau defnyddio (Lluniau o Aelodau o'r Senedd)

Cyhoeddwyd 01/03/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/02/2023   |   Amser darllen munudau

Caiff yr holl luniau o Aelodau o’r Senedd presennol a chyn Aelodau eu rhyddhau o dan Drwydded Attribution 4.0 International Creative Commons. Mae hyn yn golygu y gallwch ddefnyddio, rhannu ac addasu’r ddelwedd, cyn belled â’ch bod yn rhoi credyd priodol, yn darparu linc i’r drwydded wrth ddefnyddio’r ddelwedd, ac yn nodi os ydych wedi gwneud unrhyw newidiadau i’r ddelwedd. Os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’r ddelwedd, mae’n rhaid i chi nodi eich bod wedi gwneud newidiadau a darparu linc i’r ddelwedd wreiddiol. Ewch i’r drwydded lawn i gael rhagor o fanylion.

Drwy lwytho’r ddelwedd hon o https://senedd.cymru rydych yn cadarnhau na fyddwch, er gwaethaf amodau’r drwydded, yn defnyddio, rhannu nac addasu’r ddelwedd mewn unrhyw fodd a allai ddwyn gwawd neu warth ar y person yn y ddelwedd. Ni fyddwch yn defnyddio, rhannu nac addasu’r ddelwedd mewn ffordd anghyfreithlon nac anffafriol nac mewn unrhyw ffordd a fyddai’n dueddol o beri dychryn i’r cyhoedd, eu sarhau neu dramgwyddo yn eu herbyn.