Dogfennau, Papurau ac Adroddiadau

Mae'n rhaid i ddogfennau, papurau ac adroddiadau penodol gael eu gosod yn swyddogol (eu cyflwyno) i'r Senedd neu eu hadneuo gyda Llyfrgell y Senedd.

Dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch:

Datganiadau Barn

Gall unrhyw Aelod, ac eithrio aelodau o'r Llywodraeth, gyflwyno Datganiad Barn ar fater sy'n effeithio ar Gymru; gall unrhyw Aelod arall gefnogi, gwrthwynebu neu, fel arall, roi sylwadau ysgrifenedig ar Ddatganiad o'r fath. Mae Datganiadau Barn yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Senedd, ond nid ydynt yn destun penderfyniad gan y Senedd.

Papurau wedi'u hadneuo

Mae papurau yn cael eu hadneuo yn y Llyfrgell fel arfer, ond nid bob amser, o ganlyniad i ymrwymiad gan Weinidog a wnaed mewn ymateb i Gwestiwn yn y Senedd, neu yn ystod dadl yn y Senedd neu gyfarfod pwyllgor. Er nad oes gan Aelodau o'r Senedd, ac eithrio aelodau o'r Llywodraeth, yr hawl i adneuo dogfennau yn y Llyfrgell, gallant gyflwyno achos ar gyfer adneuo papurau y cyfeiriwyd atynt yn nhrafodion y Senedd yn y Llyfrgell, a hynny o dan awdurdod y Llywydd.

Dogfennau a osodwyd

'Gosod' yw'r broses benodol ar gyfer cyflwyno dogfennau'n ffurfiol gerbron y Senedd.

Mae Rheol Sefydlog 15 yn nodi'r pum categori o ddogfen y gellir ei gosod gerbron y Senedd. Mae'r rhain yn cynnwys eitemau fel deddfwriaeth ddrafft, adroddiadau Pwyllgorau'r Senedd a dogfennau eraill sy'n rhaid eu gosod gerbron y Senedd yn ôl y gyfraith.