Sut mae deisebau’n gweithio

Cyhoeddwyd 01/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/01/2022   |   Amser darllen munudau

  1. Rydych chi’n creu deiseb. Dim ond pobl neu sefydliadau sydd â chyfeiriad yng Nghymru sy’n gallu creu deiseb.
  2. Mae angen i 2 berson gefnogi’ch deiseb. Byddwn ni’n dweud wrthych sut i wneud hyn ar ôl i chi greu eich deiseb.
  3. Rydym ni’n gwirio’ch deiseb, yna’n ei chyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod.
  4. Dim ond unwaith y gall pobl lofnodi deiseb. Os byddant yn llofnodi’r ddeiseb ar-lein, anfonir e-bost atynt i wirio eu llofnod. Ni all pobl lofnodi deiseb ar-lein a deiseb bapur.
  5. Mae’r Pwyllgor Deisebau yn adolygu’r holl ddeisebau sy’n casglu mwy na 250 llofnod. Bydd y Pwyllgor yn penderfynu beth i’w wneud er mwyn helpu i symud ymlaen â’r ddeiseb. Gall hyn gynnwys trafod y mater a phwyso ar Lywodraeth Cymru ac eraill i weithredu.
  6. Os bydd eich deiseb yn casglu dros 10,000 llofnod, bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried gofyn am ddadl yn Siambr y Senedd. Bydd y Pwyllgor yn ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys y materion a godir yn y ddeiseb, pa mor ddybryd yw’r sefyllfa a chyfran y llofnodion sy’n dod o Gymru.

Cysylltu â ni

Gall y Pwyllgor Deisebau helpu i’ch tywys drwy'r broses ddeisebu. Os oes angen cymorth neu ragor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â:

Ffôn ar: 0300 200 6565

E-bost: deisebau@senedd.cymru

Twitter:@SeneddDeisebau

I gael rhagor o wybodaeth am gyfarfodydd y Pwyllgor Deisebau, gan gynnwys dyddiadau cyfarfodydd, papurau, a chamau gweithredu y cytunwyd arnynt, gweler tudalennau’r Pwyllgor Deisebau.