Cydsyniad Deddfwriaethol

Pan fydd Senedd y DU yn dymuno deddfu gan ddefnyddio bil y DU ar bwnc sydd eisoes wedi'i ddatganoli i'r Senedd, yn ôl confensiwn mae’n ofynnol iddo gael cydsyniad y Senedd cyn y gall basio'r ddeddfwriaeth dan sylw.

Mae Rheol Sefydlog 29 yn nodi'r broses i'w dilyn, sef cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn gofyn am gytundeb y Senedd i'r hyn sydd wedi'i gynnwys ym mil y DU mewn meysydd datganoledig.

Mae’r biliau a ganlyn gan y DU wedi bod yn destun y broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 yn ystod y Chweched Senedd. Ceir manylion llawn yr ystyriaeth honno gan gynnwys yr amserlen ar gyfer Craffu gan y Pwyllgor Busnes a chanlyniad unrhyw graffu gan y Cyfarfod Llawn neu'r Pwyllgorau ar y dudalen a ganlyn ar gyfer pob bil unigol y DU.

2023

2022

2021

2020