Gall Senedd Cymru basio Deddfau ar unrhyw faterion nas cedwir gan Senedd y DU o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017).
Deddfwriaeth
Cyfraith ddrafft yw Bil. Ar ôl i’r Senedd ystyried a phasio Bil, ac ar ôl i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, mae’n dod yn ‘Ddeddf gan Senedd Cymru’.
Hynt Biliau'r Senedd
Deddfwriaeth sylfaenol
Is-ddeddfwriaeth
Is-ddeddfwriaeth
Mae is-ddeddfwriaeth yn gyfraith a wneir gan Weinidogion o dan bwerau dirprwyedig Ddeddf gan Senedd Cymru, Mesur y Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd y DU.
![](/media/51hjspr1/featured-legislation.png?anchor=center&mode=crop&width=600&height=284&rnd=132458881361830000)
Cydsyniad Deddfwriaethol
![Y Senedd, Bae Caerdydd](/media/bn4bpfg5/100_5869.jpg?center=0.770778914914572,0.44168352662924232&mode=crop&width=600&height=284&rnd=132421370119230000)
Cydsyniad Deddfwriaethol
Pan fydd Senedd y DU yn dymuno deddfu ar fater sydd eisioes wedi'i ddatganoli i Senedd Cymru, mae confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol iddi gael cydsyniad Senedd Cymru cyn y gall basio'r ddeddfwriaeth dan sylw. Rhoddir cydsyniad o'r fath gan y Senedd drwy gynigion cydsyniad deddfwriaethol.