Gwybodaeth am y Senedd

Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae Senedd yn gweithio? Dewch i gael gwybod rhagor am bwy ydym, beth rydym yn ei wneud a sut y gallwch gymryd rhan yn ein gwaith.

Rôl y Senedd

Ein Rôl

Rydym yn gwneud cyfreithiau, pennu trethi, a goruchwylio gwaith Llywodraeth Cymru.

Dysgwch fwy am y Senedd, ein rôl wrth eich cynrychioli chi, a sut rydym yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Rhagor o wybodaeth
People walking past the Senedd signage

Ynghylch Aelodau

Aelodau o'r Senedd

Rydych chi’n cael eich cynrychioli yn y Senedd gan bum Aelod o'r Senedd (AS). Un ar gyfer eich ardal leol a phedwar ar gyfer y rhanbarth o Gymru rydych chi’n byw ynddi.

Dysgwch fwy am eich Aelodau, sut maen nhw’n eich cynrychioli chi, a’r rolau gwahanol sydd ganddyn nhw yn y Senedd.

Y Cyfarfod Llawn

Y Cyfarfod Llawn

Mae’r Aelodau’n cwrdd yn y Siambr ddwywaith yr wythnos ar gyfer y Cyfarfod Llawn, pan fydd Senedd yn eistedd.

Y Cyfarfod Llawn yw pan fydd yr Aelodau yn trafod ac yn gwneud penderfyniadau am faterion sy’n bwysig i Gymru.

Rhagor o wybodaeth am y Cyfarfod Llawn

Ynglŷn â Phwyllgorau

Pwyllgorau

Mae ein pwyllgorau’n edrych ar waith Llywodraeth Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill o ran pynciau penodol.

Maent yn cynnal ymchwiliadau ac yn llunio adroddiadau, gan archwilio cyfreithiau arfaethedig a dwyn Gweinidogion Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Ynglŷn ag etholiadau a phleidleisio

Etholiadau a Phleidleisio

Os ydych chi dros 16 oed ac yn byw yng Nghymru, cewch bleidleisio yn etholiad y Senedd bob pum mlynedd.

Mae gennych ddwy bleidlais yn etholiad y Senedd - y naill bleidlais i ddewis rhywun i gynrychioli eich ardal leol, a’r llall i ddewis pobl i gynrychioli’r rhanbarth o Gymru rydych yn byw ynddo.

Rhagor am etholiadau a phleidleisio
Pobl yn sefyll y tu allan i orsaf bleidleisio

Ynglŷn â Deisebau

Deisebau

Mae deisebau’n ffordd uniongyrchol iawn ichi awgrymu sut y gellir newid rhywbeth.

Gallwch gyflwyno deiseb ar ein system ddeisebau ar-lein, ar bapur, neu drwy gyfuniad o'r ddau.