Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.



Pwy sy'n penderfynu dros Gymru?
Cyhoeddwyd 02/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/12/2020   |   Amser darllen munudau
Beth yw datganoli?
Mae gan dair o bedair rhan y Deyrnas Unedig—Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon—eu deddfwrfeydd datganoledig eu hunain (naill ai seneddau neu gynulliadau) a llywodraethau. Mae pwerau a chyfrifoldebau yng Nghymru wedi’u dosbarthu dros dair lefel : Senedd a Llywodraeth Cymru ar lefel Cymru; Senedd y DU a Llywodraeth y DU ar lefel y DU; a chynghorau (Awdurdodau Lleol) ar lefel leol.
Datganoli yw’r broses o drosglwyddo pwerau o lefel y DU i lefel Cymru neu leol. Mae'r broses hon o ddosbarthu pwerau wedi esblygu dros amser, ac mae'n newid o ganlyniad i ddeddfwriaeth yn San Steffan a Chymru.
Mae datganoli yn y DU yn broses barhaus ac anghymesur. Rhoddwyd pwerau gwahanol i'r deddfwrfeydd datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar wahanol adegau. Mae Lloegr wedi gweithredu dull gwahanol hefyd o ran datganoli, gan gynnwys sefydlu meiri rhanbarthol, dinas a metro ac awdurdodau cyfun.
I weld trosolwg o hanes datganoli yng Nghymru, ewch i’r dudalen Hanes Datganoli.
Penderfyniadau a wneir yng Nghymru – penderfyniadau ar lefel genedlaethol
Y Senedd
Mae’r Senedd yn arfer tair prif swyddogaeth:
1. Deddfu ar gyfer Cymru
Mae'r Senedd yn gyfrifol am basio deddfwriaeth (neu Ddeddfau) sylfaenol sy'n berthnasol i Gymru. Gall wneud hynny mewn unrhyw faes nad yw wedi'i gadw'n ôl yn benodol gan San Steffan (gweler adran y DU, isod). Mae hyn yn golygu y gall y Senedd ddeddfu yn y rhan fwyaf o feysydd polisi domestig, er enghraifft iechyd, addysg, diwylliant ac eraill. Fel rheol, mae'r deddfau hyn yn rhoi pwerau i gyrff eraill o Gymru, neu'n gosod gofynion arnynt, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'r GIG.
2. Dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif
Mae’r Senedd wedi sefydlu nifer o bwyllgorau trawsbleidiol sy'n archwilio polisïau a deddfwriaeth arfaethedig y Llywodraeth. Gall pwyllgorau hefyd gynnal eu hymchwiliadau eu hunain i bynciau sy'n effeithio ar Gymru, a hyd yn oed gynnig eu deddfwriaeth eu hunain. Mae'r Senedd hefyd yn cwrdd yn y Cyfarfod Llawn, sef cyfarfod o'r holl Aelodau, a’r prif fforwm ar gyfer dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae’r Aelodau’n gwneud hynny drwy gyflwyno cwestiynau i'r Gweinidogion, cynnal dadleuon a phleidleisio ar faterion sy'n effeithio ar fywyd bob dydd yng Nghymru.
3. Cytuno ar drethi datganoledig
Rhaid i'r Senedd gymeradwyo unrhyw newidiadau i drethi datganoledig, yn ogystal â chytuno ar gyfraddau treth incwm Cymru. Mae treth tirlenwi a threth trafodiadau tir yn drethi datganoledig, ynghyd â’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Gellir creu trethi datganoledig newydd hefyd, ond mae angen caniatâd Senedd y DU arnynt. Er mai treth y DU ydyw, mae cyfraddau’r dreth incwm yn cael eu pennu’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn San Steffan.
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn llunio polisi ac yn cynnig cyfreithiau yn y meysydd y mae ganddi gyfrifoldeb amdanynt. Rhoddir y pwerau hyn i Weinidogion Cymru drwy basio deddfau yn y Senedd a Senedd y DU, ac maent wedi'u cynnwys mewn nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth. Er nad oes rhestr gynhwysfawr, maent yn cyfateb yn fras i'r meysydd y mae gan y Senedd gyfrifoldeb deddfwriaethol amdanynt.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig y gyllideb flynyddol, sef yr hyn sy'n cael ei wario yn y meysydd y mae’n gyfrifol amdanynt.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn pennu’r cyfraddau ar gyfer y trethi datganoledig a chyfradd treth incwm Cymru, ac yna mae'n rhaid i'r Senedd eu cymeradwyo.
Fodd bynnag, daw'r rhan fwyaf o gyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru fel grant bloc gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn rhydd i ddyrannu'r arian rhwng adrannau fel y gwêl yn dda.
Cyfrifir y swm gan ddefnyddio Fformiwla Barnett, sy'n ffordd o gyfrifo newidiadau i'r grant bloc o flwyddyn i flwyddyn, yn seiliedig ar newidiadau i ddyraniadau cyllideb adrannau yn Llywodraeth y DU. Cyfrifir faint o waith yr adran sydd wedi'i datganoli i Lywodraeth Cymru, maint y boblogaeth yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr, a’r terfyn isaf yn seiliedig ar anghenion (sydd wedi'i osod ar hyn o bryd ar 115 y cant o anghenion Lloegr).
Penderfyniadau ar lefel y DU – penderfyniadau a wneir gan y wladwriaeth
Senedd y DU
Gall Senedd y DU ddeddfu o hyd ym mhob maes sy'n ymwneud â Chymru.
Fodd bynnag, yn ôl confensiwn, nid yw’n deddfu fel arfer ar faterion sydd wedi’u datganoli i Gymru heb sicrhau cydsyniad y Senedd yn gyntaf, drwy fecanwaith a elwir yn Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.
Cafodd y confensiwn ei gydnabod yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 gan Ddeddf Cymru 2017, er ei fod yn parhau i fod yn gonfensiwn nad yw'n gyfreithiol rwymol.
Mae’r meysydd sydd wedi'u cadw yn ôl gan Senedd y DU, ac na chaiff y Senedd deddfu mewn perthynas â nhw felly, wedi'u nodi yn Atodlenni A and 7B yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Awdurdodaeth gyfreithiol sengl Cymru a Lloegr;
- Cysylltiadau â'r UE;
- Amddiffyn y wlad;
- Bancio;
- Mewnfudo;
- Plismona;
- Gwerthu a chyflenwi alcohol;
- Rheoleiddio gwyliau pecyn;
- Swyddfeydd post;
- Masnachu ar y Sul;
- Cyflenwi trydan;
- Olew a nwy;
- Ynni niwclear;
- Troseddau traffig ar y ffordd;
- Hofrenfad;
- Rheoleiddio meddygon a deintyddion;
- Cysylltiadau diwydiannol a chyflogaeth;
- Erthyliad;
- Meddyginiaethau;
- Darlledu;
- Cymorth cyfreithiol; a
- Carchardai.
Mae Senedd y DU, yn debyg i'r Senedd, yn deddfu ar gyfer y DU, ac yn dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif.
Llywodraeth y DU
Mae Llywodraeth y DU yn cyflawni rôl debyg iawn i rôl Llywodraeth Cymru, gan bennu polisi'r DU yn y meysydd y mae ganddi gyfrifoldeb amdanynt, sy'n cyfateb yn fras, o fewn Cymru, i’r meysydd a gadwyd yn ôl gan Senedd y DU.
Oherwydd natur anghyson datganoli yn y DU, mae gan Lywodraeth y DU bwerau gwahanol ym mhob un o bedair rhan y DU.
Nid oes gan Lywodraeth y DU bwerau dros Gymru yn y rhan fwyaf o feysydd lle y mae gan Lywodraeth Cymru bwerau – mae Llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl gyfrifol am y pwerau hynny.
Llywodraeth y DU sydd hefyd yn pennu, yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol, y rhan fwyaf o’r trethi a gesglir yng Nghymru gan gynnwys TAW, treth gorfforaeth, treth etifeddiant, treth incwm (er bod y gyfradd yn cael ei phennu’n rhannol yn genedlaethol, gweler uchod).
Penderfyniadau yn eich ardal leol – penderfyniadau a wneir yn lleol
Mae awdurdodau lleol yn darparu’r gwasanaethau statudol sy’n ofynnol yn ôl deddfwriaeth, ac maent yn cael eu grymuso gan gyfreithiau a wneir ar lefel Cymru ac ar lefel y DU i ddarparu gwasanaethau eraill hefyd. Maent yn darparu rhai o'r gwasanaethau hyn yn uniongyrchol, yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, ac yn comisiynu eraill i ddarparu gwasanaethau ar eu rhan. Daw'r rhan fwyaf o'u harian yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.
Er bod y gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol yn ddarostyngedig i gyfreithiau, strategaethau a thargedau a gaiff eu nodi a'u monitro'n bennaf gan Lywodraeth Cymru, mae ganddynt ddisgresiwn wrth ddarparu a chyflenwi'r gwasanaethau hynny yn eu hardaloedd.
Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldebau eang, ac mae’r cyfrifoldebau hynny wedi’u cynnwys mewn sawl darn o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth a gaiff eu pasio gan y Senedd a Senedd y DU.
Mae'r rhestr isod yn rhoi trosolwg (anghyflawn) o'u pwerau a'u cyfrifoldebau cyffredinol:
- gwasanaethau cofrestru sifil (genedigaeth, marwolaeth, priodas);
- crwneriaid;
- amlosgi a chladdu;
- datblygiad economaidd ac adfywio (gan gynnwys pwerau i ddarparu grantiau a chefnogi busnesau);
- addysg (gan gynnwys darpariaeth addysg feithrin, addysg gynradd, addysg uwchradd, addysg amser llawn i unigolion rhwng 16 a 19 oed, ac addysg ôl-19 oed heblaw Addysg Uwch);
- amgylchedd (gan gynnwys iechyd y cyhoedd, lles anifeiliaid, llygredd sŵn a golau, baw cŵn, cerbydau wedi'u gadael, cynnal a chadw tir a pharciau, a sbwriel etc);
- cynllunio at argyfwng;
- gwasanaethau tân ac achub;
- diogelwch bwyd;
- rhai priffyrdd (o dan ddarpariaethau a amlinellir yn Neddf Priffyrdd 1980);
- tai;
- gweithgareddau hamdden;
- llyfrgelloedd;
- trwyddedu (gan gynnwys cyfrifoldeb am drwyddedu alcohol, tacsis, adloniant cyhoeddus a hapchwarae);
- parciau cenedlaethol;
- cynllunio;
- gwasanaethau cymdeithasol;
- cynllunio strategol;
- trafnidiaeth;
- safonau masnach; a
- gwastraff.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd

Etholiadau’r Senedd
Gallwch weld canlyniadau holl etholiadau'r Senedd, gan gynnwys isetholiadau.

Deddfu
Dysgwch am sut rydym yn deddfu ac yn newid cyfreithiau sy'n effeithio ar bawb yng Nghymru

Canlyniadau Etholiadau a Refferenda
Canlyniadau a gwybodaeth am etholiadau a refferenda yng Nghymru