Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio i wella amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth leol

Cyhoeddwyd 17/10/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/10/2023   |   Amser darllen munudau

Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i annog mwy o amrywiaeth mewn llywodraeth leol, yn ôl un o Bwyllgorau’r Senedd.

Canfu ymchwiliad diweddaraf y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai nad oedd cynghorau tref a chymuned ac awdurdodau lleol yn gynrychioliadol o’r boblogaeth o hyd. 

Er gwaethaf rhai gwelliannau diweddar, nid oes dal cynrychiolaeth deg i fenywod, pobl o gefndir lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl. 

Ehangu’r cymorth i ymgeiswyr   

Un o brif argymhellion yr adroddiad oedd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gallai mwy o bobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol elwa o gymorth i gyflwyno eu henwau ar gyfer etholiad.  

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’w Chronfa Mynediad i Swyddi Etholedig, ond mae’n credu bod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o’i bodolaeth. Ar hyn o bryd, mae’r fenter hon yn cefnogi pobl anabl i sefyll am etholiad drwy ddarparu cymorth a grantiau i ganiatáu chwarae teg gydag ymgeiswyr nad ydynt yn anabl.  

Gellid defnyddio grant, er enghraifft, i dalu rhywun i helpu i ddosbarthu taflenni o ddrws i ddrws, pan na fydd symudedd yr ymgeisydd yn caniatáu iddynt wneud hyn eu hunain, neu i dalu am ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer hystings gwleidyddol.  

Mae’r Pwyllgor yn argymell y gellid datblygu cynllun cymorth hefyd i gynorthwyo grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, fel pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, ac y dylai hefyd gael ei ehangu o ran y math o gefnogaeth y gall ei chynnig.  

Er enghraifft, gall pobl ar incwm isel neu bobl â chyfrifoldebau gofalu elwa o gymorth ariannol ond i eraill, byddai cymorth fel mentora ac ymdrin ag aflonyddu neu gam-drin fel ymgeisydd yn fwy priodol.    

Dywedodd John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, “Mae’r adroddiad heddiw yn codi cwestiynau pwysig am ein democratiaeth ac a yw’n gynrychioliadol o bawb sy’n byw yng Nghymru. Yn anffodus, mae’n amlwg bod llawer mwy o waith i’w wneud o hyd i sicrhau bod llywodraeth leol yn cynrychioli pobl o bob cefndir.  

“Mae angen i gynllun cymorth sy’n cefnogi pobl sy’n cael eu tangynrychioli mewn gwleidyddiaeth fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru os ydym o ddifrif am wella amrywiaeth ein cynrychiolwyr lleol. Rwy’n falch o weld darpariaeth ar gyfer hyn yn y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), y byddwn yn craffu arno dros y misoedd nesaf.”  

Gwella trefniadau casglu data  

Clywodd y Pwyllgor gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru fod cyfran y cynghorwyr benywaidd wedi cynyddu o 28 y cant yn 2017 i 36 y cant yn 2022 ond bod hyn yn gynnydd araf iawn yn eu barn nhw.  

Yn ogystal â hyn, mae diffyg data difrifol ynghylch cefndiroedd ymgeiswyr. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol arolygu’r holl ymgeiswyr ar gyfer cynghorau am eu cefndiroedd – ond dim ond 12 y cant a ymatebodd i’r arolwg yn 2022.   

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wella’r gyfradd ymateb i’r Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol. Dylai hyn gynnwys cynyddu ymwybyddiaeth a hyrwyddo’r arolwg ymhlith ymgeiswyr a chynghorwyr, a rhannu arfer gorau rhwng awdurdodau lleol.  

Aeth John Griffiths AS yn ei flaen i ddweud, “Rydym yn gwybod bod rhai enghreifftiau o arfer da eisoes yn digwydd, yn enwedig yn Sir Fynwy a Bro Morgannwg, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i hwyluso cynghorau i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Ar hyn o bryd, mae prinder data cadarn ar gael, ac mae’n rhaid gwneud gwaith i gael darlun cywir o’r sefyllfa yng Nghymru.  

“Rwy’n edrych ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar yr argymhellion hyn fel y gallwn symud yn gadarnhaol at ddemocratiaeth fwy cynrychioliadol yng Nghymru.”  

 


Mwy am y stori hon

Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol: Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol