Mae tîm newyddion y Senedd yn gyfrifol am hyrwyddo gwaith y Senedd, ei phwyllgorau a’i Haelodau.
Rydym yn hyrwyddo ymchwiliadau pwyllgorau craffu'r Senedd, digwyddiadau'r Senedd a phenderfyniadau a wneir gan Aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Llawn. Rydym hefyd yn ymateb i ymholiadau gan y cyfryngau ar faterion yn ymwneud â'r Senedd, yn rheoli ceisiadau ffilmio, ffotograffiaeth a darlledu byw ar ystâd y Senedd, ac yn cynnal gweithdai ac yn rhoi cyflwyniadau i wella dealltwriaeth y cyfryngau o'r Senedd a sut mae'n gweithio.
Gallwch gysylltu â'r tîm ar 0300 200 7487, neu drwy anfon neges e-bost at newyddion@senedd.cymru.
Yr oriau swyddfa arferol yw 9.00 i 17.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener. Yn ystod y tymor, bydd rhywun ar gael hyd at ddiwedd y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth a dydd Mercher.
Ar gyfer ymholiadau y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 0300 200 7487.
Mae rhagor o wybodaeth am y cymorth rydym yn ei gynnig i’r cyfryngau ar gael isod.
Adnoddau
Cymorth i'r Cyfryngau
Lle bynnag rydych chi wedi'ch lleoli a beth bynnag fo'ch diddordeb yn y Senedd, byddwn ni bob amser yn ceisio helpu. Rydym yn:
- Delio ag ymholiadau gan y cyfryngau ynghylch gwaith y Senedd a’r Llywydd
- Briffio’r cyfryngau ynghylch busnes y Senedd
- Hwyluso ceisiadau am achrediad y cyfryngau, ffilmio a ffotograffiaeth
- Rhoi cymorth i’r holl gyfryngau sydd wedi'u lleoli yn y Senedd, neu sy'n ymweld â hi
- Cynnal sgyrsiau, teithiau neu sesiynau briffio ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y cyfryngau neu fyfyrwyr newyddiaduraeth am waith y Senedd
Adnoddau ar gyfer y Cyfryngau
Lincs ac adnoddau defnyddiol. Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i weld ein hymholiadau mwyaf cyffredin:
Newyddion Dan Sylw
Y DIWEDDARAF
Cysylltiadau eraill
Tâl, Treuliau a Phensiynau Aelodau
Dylid cyfeirio ymholiadau gan y cyfryngau ynghylch treuliau, tâl a phensiynau Aelodau at Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ar 0300 200 6565.
Ymholiadau Cyfryngau Llywodraeth Cymru
Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau ynghylch Llywodraeth Cymru neu Brif Weinidog Cymru, dylid ffonio Swyddfa'r Wasg Llywodraeth Cymru ar 0300 025 8099.
Aelodau o'r Cyhoedd
Dylai aelodau o'r cyhoedd ffonio 0300 200 6565 i siarad â Chanolfan Gyswllt y Senedd.