Ceisiadau am basys y cyfryngau

Mae’r Senedd yn rhan ganolog o fywyd cyhoeddus yng Nghymru ac mae’r penderfyniadau a wneir gan ei Haelodau etholedig yn effeithio ar bawb yng Nghymru. Mae craffu ar waith y Senedd yn bwysig ac, yn ogystal â hynny, mae’n bwysig bod Aelodau a grwpiau gwleidyddol yn cael eu dwyn i gyfrif gan gyfryngau cadarn ac annibynnol.

Mae’r lle sydd ar gael yn lobi’r cyfryngau yn gyfyngedig iawn. Fodd bynnag, gellir rhoi pasys y cyfryngau i newyddiadurwyr sy’n dymuno rhoi sylw i drafodion y Senedd.

Cysylltwch â’r tîm newyddion i drafod cais am pas. Yn anffodus, nid yw pob cais yn cael ei gymeradwyo.

Os caiff cais ei gymeradwyo gan y tîm newyddion, caiff ei basio ymlaen i adran fetio’r Senedd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd lenwi cyfres o ffurflenni i ganiatáu gwiriad diogelwch trylwyr.

Gall fetio gymryd hyd at 2-3 wythnos cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Bydd deiliaid pasys newydd yn cael cynnig taith o amgylch yr adeilad a'r cyfleusterau gan y tîm newyddion i'w helpu i ddod yn gyfarwydd â’r adeilad.

Dylid nodi: rhoddir pas cyfryngau i unigolyn, nid sefydliad cyfryngau. Os bydd yr unigolyn yn gadael y cwmni hwnnw, bydd y pas yn cael ei dynnu yn ôl. Gellir enwi rhywun arall yn ei le ond bydd angen iddo gael yr un gweithdrefnau fetio.

Gallwn drefnu pasys dros dro ar gyfer lleoliadau tymor byr neu rai newydd os ydych yn colli eich pàs.