Hanes datganoli yng Nghymru

Cyhoeddwyd 17/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/11/2020   |   Amser darllen munudau

950-1450

Mae gan Gymru ei thraddodiad cyfreithiol cynhenid ei hun y gellir ei olrhain yn ôl i ganol y 10fed Ganrif. Dywedir bod Hywel Dda wedi goruchwylio’r gwaith o godeiddio ac ad-drefnu cyfraith Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, yn sgil methiant y gwrthryfel mawr olaf dan arweiniad Owain Glyndŵr (1400-c.1415), arweinydd poblogaidd wnaeth alw seneddau ynghyd ym Machynlleth a Harlech, daeth y traddodiad i ben.

1535-1542

Yn ystod teyrnasiad Brenin Harri VIII, pasiwyd Deddfau Cyfreithiau yng Nghymru 1535 a 1542. O dan y Deddfau hyn, gwnaed Cymru yn rhan o deyrnas Lloegr i bob pwrpas. Roedd y Deddfau’n ymestyn cyfraith Lloegr i Gymru, ac yn nodi Saesneg fel iaith y gyfraith, er iddynt sefydlu strwythurau barnwrol ar wahân i Gymru yn Llys y Sesiwn Fawr. Cafodd Cymru gynrychiolaeth yn Senedd Lloegr, gyda 26 o Aelodau Seneddol (a gynyddodd i 27 wedi hynny).

Diddymodd Senedd Lloegr ei hun ym 1707 (felly hefyd Senedd yr Alban), a ffurfiwyd Senedd newydd Prydain Fawr – ochr yn ochr â'r Deyrnas Unedig ei hun. Cafodd y Senedd ei hehangu i gynnwys Iwerddon o 1801 ymlaen gan ddatblygu i fod yn Senedd y Deyrnas Unedig.

Ym 1746, o dan Ddeddf Cymru a Berwick, newidiwyd y diffiniad cyfreithiol o Loegr i gynnwys Cymru (a Berwick), ac ym 1830 diddymwyd Llys y Sesiwn Fawr, gan ysgubo’r nodwedd amlwg olaf o gyfraith neilltuol Cymru i ebargofiant.

1880-1921

Gellir olrhain gwreiddiau datganoli yng Nghymru yn ôl i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym 1886, sefydlwyd Cymru Fydd i hyrwyddo amcanion y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru ac ymgyrchu o blaid ‘ymreolaeth’ i Gymru. Er mai dim ond am gyfnod byr y parhaodd llwyddiant Cymru Fydd, cyd-darodd ei weithgareddau â datblygiadau gwleidyddol eraill a oedd yn berthnasol i Gymru, fel pasio Deddf benodol i Gymru am y tro cyntaf yn Senedd y DU (1881). Cyd-darodd hefyd â dechrau datganoli gweinyddol yng Nghymru drwy sefydlu Bwrdd Addysg Cymru ym 1907 ac yn y pen draw, ym 1920, datgysylltu’r eglwys Anglicanaidd yng Nghymru.

Awgrymwyd sawl cynllun ar gyfer ‘ymreolaeth’ rhwng y 1880au a dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd rhai yn rhagweld sefydlu seneddau a llywodraethau yn Nulyn, Caeredin a Chaerdydd, oll yn rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig. Daeth y cyfnod hwn yn hanes datganoli i ben pan rannwyd Iwerddon a sefydlwyd Gweriniaeth Iwerddon o dan arweinyddiaeth David Lloyd George, y Cymro cyntaf i fod yn Brif Weinidog.

1950au

Rhoddwyd datganoli yn ôl ar yr agenda wleidyddol ddechrau’r 1950au gan Ymgyrch Senedd i Gymru. Arweiniwyd yr ymgyrch drawsbleidiol hon gan y Fonesig Megan Lloyd George AS, a chyrhaeddodd benllanw pan gyflwynwyd deiseb yn cynnwys 250,000 o lofnodion yn galw am sefydlu senedd i Gymru.

Sbardunodd sawl datblygiad y broses o drosglwyddo pwerau o San Steffan i Gymru.

Cafodd deisebau i greu Ysgrifennydd Gwladol Cymru eu gwrthod gan Lywodraeth Lafur 1945-50, ond ffurfiwyd Cyngor Cymru a Sir Fynwy ym 1948 yn ei le. Corff etholedig oedd hwn, a oedd yn rhoi cyngor i’r Llywodraeth ar faterion Cymreig.

Ym 1951, crëwyd swydd is-weinidogol newydd gan y Llywodraeth Geidwadol yn y Swyddfa Gartref, sef swydd y Gweinidog Dros Faterion Cymreig, a gafodd ei huwchraddio’n weinidog gwladol ym 1954.

1960au

Yn dilyn etholiad y DU ym 1964, creodd y Llywodraeth Lafur newydd swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Y flwyddyn ganlynol, sefydlwyd Swyddfa Cymru, dan arweiniad yr Ysgrifennydd Gwladol newydd, i weithredu polisi Llywodraeth y DU yng Nghymru.

Ar y dechrau, dim ond ffyrdd, tai a llywodraeth leol yr oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfrifol amdanynt. Cafodd meysydd eraill, gan gynnwys addysg a hyfforddiant, iechyd, masnach a diwydiant, yr amgylchedd ac amaethyddiaeth, eu hychwanegu'n raddol dros y blynyddoedd.

Ym 1965 cafodd pentref Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn, a oedd yn gartref i gymuned gref Gymraeg, ei boddi i greu cronfa ddŵr Tryweryn. Er mwyn darparu cyflenwad dŵr newydd i’r ddinas, sicrhaodd Cyngor Lerpwl awdurdod drwy Ddeddf Senedd y DU i greu cronfa ddŵr ar safle'r pentref. Drwy wneud hynny, nid oedd angen i Gyngor Dinas Lerpwl gael caniatâd cynllunio gan awdurdodau lleol perthnasol Cymru a llwyddodd i osgoi ymchwiliad cynllunio a fyddai wedi bod yn fodd i ddadleuon yn erbyn y cynnig gael eu gwneud ar lefel Cymru. Oherwydd y broses a ddilynwyd, a'r ffaith mai’r pentref oedd un o'r cymunedau uniaith Gymraeg olaf, roedd creu'r gronfa ddŵr a dinistrio'r pentref yn sefyllfa ddadleuol dros ben.

O dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1967, diddymwyd rhan o Ddeddf Cymru a Berwick, gan ddileu Cymru o'r diffiniad cyfreithiol o Loegr. Gwnaeth hefyd ehangu’r meysydd lle caniatawyd defnyddio'r Gymraeg, gan gynnwys mewn rhai sefyllfaoedd cyfreithiol.

1970au

Yn ystod y 1970au cafwyd brwydr seneddol hirfaith ynghylch rhoi datganoli ar waith yng Nghymru a'r Alban. Llwyddodd plaid Lafur 1977-79 i aros mewn grym drwy gefnogaeth ASau cenedlaetholgar o Gymru a'r Alban, ymhlith eraill, er bod cryn wrthwynebiad i'w chynlluniau ar gyfer datganoli o fewn y blaid ei hun.

Cafwyd y bleidlais gyntaf ar ddatganoli yng Nghymru ar 1 Mawrth 1979. Roedd hyn yn dilyn y Comisiwn Brenhinol ar y Cyfansoddiad ym 1973, o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Crowther ac wedyn yr Arglwydd Kilbrandon. Argymhelliad y Comisiwn oedd creu cyrff etholedig ar gyfer yr Alban a Chymru.

Mewn refferendwm a gynhaliwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 1979, gwrthododd etholwyr Cymru gynlluniau datganoli llywodraeth Lafur y dydd o fwyafrif o 4 i 1. Arweiniwyd y gwrthwynebiad gan aelodau o’r blaid Lafur ei hun. Roedd hi’n ymddangos i lawer ar y pryd mai dyma oedd diwedd datganoli

1979-1997

Yn y cyfnod yn dilyn y refferendwm ym 1979, daeth datganoli yn fater gwleidyddol cwsg yng Nghymru. Serch hynny, o ganlyniad i bolisïau Llywodraeth Geidwadol y DU yn ystod cyfnod economaidd anodd yr 1980au, ynghyd â lefelau isel o gefnogaeth etholiadol yng Nghymru (o’i chymharu â gweddill y DU), cafwyd galwadau o’r newydd am sefydliad democrataidd penodol i Gymru.

Roedd pwerau Swyddfa Cymru wedi cynyddu'n sylweddol yn y cyfnod cyn y refferendwm, ac fe barhaodd hynny i ddigwydd drwy gyfnod Margaret Thatcher fel Prif Weinidog.

Yn sgil y broses hon hefyd crëwyd cyfres o sefydliadau lled-anllywodraethol, neu cwangos, sef cyrff hyd braich a gâi eu rheoli i ryw raddau gan y Llywodraeth, ac yr oedd y Llywodraeth yn dirprwyo pwerau iddynt. Gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn penodi llawer o arweinwyr y sefydliadau hyn, roedd galw cynyddol i am fwy o atebolrwydd ac am ddemocrateiddio’r haen led-lywodraethol hon.

O dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, rhoddwyd sail gyfreithiol gyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg mewn sawl elfen o fywyd cyhoeddus ac fe ddiddymwyd y Deddfau Cyfreithiau yng Nghymru.

1997-1998

Yn ystod y cyfnod o 1979 ymlaen, gwelwyd newid ym marn y cyhoedd yng Nghymru o blaid datganoli. Ym mis Mai 1997, pan ddychwelodd y Blaid Lafur i bŵer am y tro cyntaf ers 1979, roedd maniffesto’r Blaid Lafur yn cynnwys ymrwymiad i gynnal refferendwm ar sefydlu Cynulliad Cymru. Cyhoeddwyd Papur Gwyn o’r enw ‘Llais dros Gymru’ ym mis Gorffennaf 1997. Roedd y Papur Gwyn yn amlinellu cynigion Llywodraeth y DU ac, ar 18 Medi, cynhaliwyd refferendwm. Dim ond 6,721 o bleidleisiau oedd y mwyafrif cyffredinol o blaid, ond roedd hynny’n ddigon i newid cwrs hanes Cymru. Y diwrnod hwnnw, disgrifiodd Ron Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, ddatganoli yng Nghymru fel “proses, nid digwyddiad”. Mae stori datblygiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ers 1999 wedi profi’r pwynt hwn.

Ym 1998, pasiodd Senedd San Steffan Ddeddf Llywodraeth Cymru gan osod seiliau cyfreithiol ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol. Roedd y ddeddfwriaeth yn ymgorffori nifer o werthoedd creiddiol gan gynnwys ymrwymiad i gydraddoldeb, datblygiad cynaliadwy, gweithredu ar sail partneriaeth a thriniaeth gyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg. Rhoddodd y Ddeddf y pŵer i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud is-ddeddfwriaeth mewn meysydd penodol, gan gynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, addysg, tai a phriffyrdd. Roedd y pwerau’n cyd-fynd yn gyffredinol â’r rhai yr arferai Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod yn gyfrifol amdanynt.

1999

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Mai 1999 cyn ei agoriad swyddogol cyntaf ar 26 Mai. Yn dilyn ymdrechion parhaus gan rai o'r pleidiau gwleidyddol, roedd cyfanswm o 24 o'r 60 o Aelodau Cynulliad newydd eu hethol yn fenywod. Roedd hyn yn newid dramatig yn hanes gwleidyddol Cymru a oedd, tan hynny, wedi ei ddominyddu gan ddynion.

Roedd llawer o nodweddion cadarnhaol i’r Cynulliad newydd o ran hygyrchedd cyhoeddus a gwleidyddiaeth fwy cynwysedig a chydsyniol, ond cafwyd problemau o ganlyniad i’r strwythur o gorff corfforaethol sengl. Pwysleisiwyd yr angen am newid cyfansoddiadol a sefydlogrwydd gan yr anawsterau a brofwyd gan y weinyddiaeth Lafur leiafrifol o geisio sicrhau cytundeb cyson gan bleidiau eraill yn y Cynulliad, yn ogystal â disodli'r Prif Ysgrifennydd ym mis Chwefror 2000.

O ganlyniad i’r galwadau niferus am newid, cytunodd y Cynulliad ar benderfyniad yn 2002 i wahanu’r ddwy swyddogaeth o fewn fframwaith Deddf 1998. Gwnaethpwyd hyn drwy bennu’r term Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddisgrifio’r corff a oedd yn gyfrifol am bolisïau a gweithredoedd y Cabinet, er mwyn gwahaniaethu rhwng y corff hwnnw a’r Cynulliad Cenedlaethol a oedd yn meddu ar fwy o annibyniaeth o ran cynnig cyngor, ymchwil a chefnogaeth i Aelodau a phwyllgorau’r Cynulliad.

2006

Agorwyd adeilad y Senedd gan y Frenhines ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006. Fe’i cynlluniwyd gan Bartneriaeth Richard Rogers gan wneud defnydd helaeth o ddeunyddiau Cymreig megis llechi a choed derw. Mae’r adeilad yn ymgorffori, mewn modd diriaethol, y gwerthoedd sy’n sail i’r Cynulliad Cenedlaethol megis cynaladwyedd amgylcheddol, tryloywder a natur agored.

2007

Wedi’r trydydd Etholiad Cyffredinol Cymreig, cyfarfu Aelodau’r Cynulliad mewn Cynulliad Cenedlaethol a oedd wedi ei wahanu’n ffurfiol oddi wrth Lywodraeth Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn ogystal â hynny, rhoddodd y Ddeddf honno’r hawl i Aelodau’r Cynulliad wneud deddfwriaeth sylfaenol am y tro cyntaf.

Drwy’r gwahanu, gwnaeth Deddf 2006 swyddogaethau'r ddau sefydliad yn fwy eglur. Daeth Llywodraeth Cymru (yn cynnwys Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, Dirprwy Weinidogion a’r Cwnsler Cyffredinol) yn gyfrifol am wneud a gweithredu penderfyniadau, polisïau ac is-deddfwriaeth. 

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol (y corff o 60 o Aelodau etholedig) yn craffu ar benderfyniadau a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru ac yn dwyn ei Gweinidogion i gyfrif. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol hefyd yn deddfu ac yn cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl.

Roedd Deddf 2006 hefyd yn datgan y byddai eiddo, staff a gwasanaethau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu darparu gan Gomisiwn y Cynulliad.

2010

Un o weithredoedd symlaf ac eto mwyaf effeithiol y Cynulliad Cenedlaethol oedd cyflwyno ‘Tâl am Fagiau Siopa Untro’. Yn sgil hyn, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU yn 2011 i godi tâl am fagiau siopa untro, gan arwain at ostyngiad yn eu defnydd o tua 75%. Dilynodd Gogledd Iwerddon arweiniad Cymru yn 2013 gyda’r Alban yn gwneud yr un peth yn 2014 a Lloegr yn dilyn yn 2015.

2011 - 2014

Pleidleisiodd etholwyr Cymru mewn trydydd refferendwm ar fater datganoli ar 4 Mawrth 2011, y tro hwn ar p’un a ddylai’r Cynulliad Cenedlaethol gael pwerau deddfu llawn yn y meysydd hynny y mae’n gyfrifol amdanynt. Y tro hwn roedd 63.5 y cant yn cefnogi datganoli pellach. Roedd ‘ymreolaeth’ wedi ennill ei blwyf.

Sefydlwyd Comisiwn Silk gan Lywodraeth y DU i ystyried dyfodol y setliad datganoli yng Nghymru. Yn 2012, cyhoeddodd Comisiwn Silk ran gyntaf ei adroddiad, gan wneud argymhellion ar bwerau ariannol y Cynulliad. Cyhoeddodd Comisiwn Silk ail ran yr adroddiad yn 2014, gan wneud argymhellion ar bwerau a threfniadau deddfwriaethol y Cynulliad yn y dyfodol.

Gan ddefnyddio ei grymoedd deddfu newydd, pasiodd y Cynulliad Cenedlaethol Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) yn 2013 ar ôl un o’r trafodaethau mwyaf dwys yn ei hanes. Bwriad y ddeddfwriaeth oedd cyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau a meinweoedd er mwyn cynyddu nifer yr organau sydd ar gael ar gyfer llawdriniaethau hanfodol.

2015-16

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU Pwerau at bwrpas yn 2015, gan osod sylfaen ar gyfer datblygu model cadw pwerau ar gyfer datganoli yng Nghymru.

Pasiwyd Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, wrth i’r Cynulliad baratoi i arfer y pwerau trethu a benthyca a ddatganolwyd gan Ddeddf Cymru 2014. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd dechreuodd y Cynulliad ddatblygu ei rôl wrth oruchwylio trafodaethau'r DU ynghylch ymadael â’r UE, craffu ar y ddeddfwriaeth berthnasol, a diffinio ble fyddai Cymru’n sefyll yn y DU ar ôl Brexit.

2017

Roedd Deddf Cymru 2017 yn gosod y Cynulliad Cenedlaethol ar seiliau cyfansoddiadol newydd, gan ei gwneud yn rhan barhaol o drefn gyfansoddiadol y DU. Roedd pwerau newydd a drosglwyddwyd i’r ddeddfwrfa Gymreig yn cynnwys y pwerau i benderfynu ar ei henw ei hun a’r gyfundrefn etholiadol ar gyfer dewis ei Haelodau.

2018

Ym mis Ebrill 2018 cyflwynwyd dwy dreth Gymreig ddatganoledig, sef y Dreth Trafodiadau Tir, sydd wedi cymryd lle’r Dreth Stamp, a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Flwyddyn yn ddiweddarach ym mis Ebrill 2019, datganolwyd rheolaeth dros £2 biliwn o dreth incwm. Mae’r trethi hyn nawr yn amodol ar gytundeb y Senedd.

2019

Ym mis Chwefror 2019, cyfarfu Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru am y tro cyntaf yn siambr y Senedd. Gan adlewyrchu trefniadau ar gyfer ethol Aelodau o’r Senedd, caiff 40 o aelodau’r Senedd Ieuenctid eu hethol o bob etholaeth yng Nghymru, gydag 20 ychwanegol sy’n cael eu hethol i sicrhau amrywiaeth a chynwysoldeb ehangach.

2020

Ar ôl 20 mlynedd, cafodd y Cynulliad Cenedlaethol ei gydnabod yn senedd lawn ar ôl pasio’r Ddeddf Senedd ac Etholiadau. Yn sgil hyn, newidiwyd enw’r Cynulliad ar 6 Mai 2020 i Senedd Cymru (Welsh Parliament yn Saesneg) er mwyn adlewyrchu’n llawn ei statws cyfansoddiadol fel senedd sy’n deddfu ac yn pennu trethi. Rhoddodd y Ddeddf yr hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiadau’r Senedd hefyd. Dyma’r estyniad mwyaf i'r etholfraint ers 50 mlynedd.