Gan ddechrau yn 2026, mae’r ffordd rydych chi’n pleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn newid.
Etholiad y Senedd yw’r adeg pan fydd pleidleiswyr yng Nghymru yn penderfynu pwy fydd yn cynrychioli eu hardal leol – eu hetholaeth – yn Senedd Cymru.
Yn 2026, bydd gan bob ardal chwe ‘sedd’ yn y Senedd, sy'n golygu y bydd chwe Aelod yn cael eu hethol ym mhob etholaeth.
Ar ddiwrnod yr etholiad, bydd gennych chi un bleidlais ar gyfer y blaid wleidyddol neu'r ymgeisydd annibynnol rydych am iddo gynrychioli eich etholaeth yn y Senedd.
Sut mae’n gweithio?
Enw’r system bleidleisio newydd yw’r 'system rhestr gyfrannol gaeedig'. Mae hyn yn fath o gynrychiolaeth gyfrannol.
Gyda'r system hon, rydych yn pleidleisio dros blaid wleidyddol a'r rhestr o ymgeiswyr sydd ganddi. Gallech hefyd bleidleisio dros ymgeisydd annibynnol sy'n sefyll yn yr etholiad.
Caiff Aelodau newydd o'r Senedd eu dewis yn eu trefn o restrau'r pleidiau. Neu caiff ymgeiswyr annibynnol eu dewis lle maent yn ennill digon o bleidleisiau.
Felly sut fydd ymgeiswyr yn cael eu hethol?
Yr hyn sy’n cael ei alw’n fformiwla D’Hondt sy’n penderfynu pa ymgeiswyr sy'n cael eu hethol gan ddefnyddio'r system hon, gan rannu pleidleisiau pob plaid â nifer y seddi y maent eisoes wedi'u hennill, gan adio un.
Ar ôl ennill sedd, caiff pleidleisiau plaid eu rhannu â dau; ar ôl ennill dwy sedd, caiff eu pleidleisiau eu rhannu â thri, ac yn y blaen.
Mae cyfrif y pleidleisiau yn digwydd mewn rowndiau, gyda'r blaid gyda'r cyfanswm uchaf ym mhob rownd yn ennill y sedd.
Beth am i ni ddefnyddio'r tabl isod i edrych ar enghraifft o hyn a gweld sut mae'n newid ym mhob rownd.
|
|
Plaid A |
Plaid B |
Plaid C |
Plaid D |
Ymgeisydd annibynnol |
|
Pleidleisiau |
300 |
210 |
120 |
30 |
10 |
Rownd 1
Fel y blaid â'r nifer fwyaf o bleidleisiau, Plaid A fyddai'n cipio'r sedd gyntaf. Byddai'r ymgeisydd cyntaf ar eu rhestr yn cael ei ethol.
|
|
Plaid A |
Plaid B |
Plaid C |
Plaid D |
Ymgeisydd annibynnol |
|
Pleidleisiau |
300 |
210 |
120 |
30 |
10 |
|
Rownd 1 |
300 |
210 |
120 |
30 |
10 |
Byddai pleidleisiau Plaid A wedyn yn cael eu rhannu â dau ar gyfer y rownd nesaf.
Enghraifft:
Plaid A: 300/(1+1 sedd)=150
Rownd 2
Yn y rownd nesaf, Plaid B sydd bellach â'r nifer fwyaf o bleidleisiau, felly mae'n ennill sedd. Felly byddai'r ymgeisydd cyntaf ar ei rhestr yn cael ei ethol.
|
|
Plaid A |
Plaid B |
Plaid C |
Plaid D |
Ymgeisydd annibynnol |
|
Pleidleisiau |
300 |
210 |
120 |
30 |
10 |
|
Rownd 1 |
300 |
210 |
120 |
30 |
10 |
|
Rownd 2 |
150 |
210 |
120 |
30 |
10 |
Byddai pleidleisiau Plaid B wedyn yn cael eu rhannu â dau ar gyfer y rownd nesaf.
Enghraifft:
Plaid B: 210/(1+1 sedd)=105
Rownd 3
Yn y drydedd rownd, Plaid A sydd â'r nifer fwyaf uchaf o bleidleisiau eto ac mae’n ennill ail sedd. Byddai'r ail berson ar restr y blaid hon nawr yn cael ei ethol.
|
|
Plaid A |
Plaid B |
Plaid C |
Plaid D |
Ymgeisydd annibynnol |
|
Pleidleisiau |
300 |
210 |
120 |
30 |
10 |
|
Rownd 1 |
300 |
210 |
120 |
30 |
10 |
|
Rownd 2 |
150 |
210 |
120 |
30 |
10 |
|
Rownd 3 |
150 |
105 |
120 |
30 |
10 |
Mae cyfanswm pleidleisiau gwreiddiol Plaid A (300) bellach wedi’i rannu â thri (1+2 sedd y mae eisoes wedi’u hennill).
Enghraifft:
Plaid A: 300/(1+2 sedd)=100
Mae hyn yn parhau nes caiff yr holl seddi eu llenwi.
Yn yr enghraifft hon:
· Bydd Plaid A yn ennill 3 sedd
· Bydd Plaid B yn ennill 2 sedd
· Bydd Plaid C yn ennill 1 sedd
|
|
Plaid A |
Plaid B |
Plaid C |
Plaid D |
Ymgeisydd annibynnol |
|
Pleidleisiau |
300 |
210 |
120 |
30 |
10 |
|
Rownd 1 |
300 |
210 |
120 |
30 |
10 |
|
Rownd 2 |
150 |
210 |
120 |
30 |
10 |
|
Rownd 3 |
150 |
105 |
120 |
30 |
10 |
|
Rownd 4 |
100 |
105 |
120 |
30 |
10 |
|
Rownd 5 |
100 |
105 |
60 |
30 |
10 |
|
Rownd 6 |
100 |
70 |
60 |
30 |
10 |
|
Etholwyd |
3 |
2 |
1 |
|
|
Mae’r system newydd yn sicrhau bod nifer y seddi y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu hennill yn nes at ganran y pleidleisiau a gânt.
Felly yn yr enghraifft hon enillodd Plaid A 45% o’r bleidlais a 50% o’r seddi; Enillodd Plaid B 31% o’r bleidlais a 33.3% o’r seddi; Enillodd Plaid C 18% o’r bleidlais ac 16.6% o’r seddi.
Os bydd plaid yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill un neu fwy o seddi yn y Senedd. Gall ymgeiswyr annibynnol hefyd ennill sedd os ydynt yn ennill digon o bleidleisiau.
Sut yr oedd Aelodau o'r Senedd yn cael eu hethol cyn 2026?
Yn y gorffennol, roeddech chi’n bwrw dwy bleidlais. Roedd y bleidlais gyntaf yn dewis ymgeisydd i gynrychioli eich etholaeth, ac roedd yr ail bleidlais fel arfer i blaid gynrychioli’r rhanbarth o Gymru yr oeddech yn byw ynddi.
Gyda'r system newydd, byddwch yn awr yn bwrw un bleidlais i ddewis y blaid wleidyddol neu'r ymgeisydd annibynnol rydych chi eisiau i gynrychioli eich etholaeth.
Beth oedd y system bleidleisio flaenorol?
Yn etholiadau blaenorol y Senedd, roedd system bleidleisio o'r enw 'System Aelodau Ychwanegol' yn cael ei defnyddio. Roedd y system hon yn cyfuno dau fath o bleidleisio.
Yn gyntaf, roedd pobl yn pleidleisio dros ymgeisydd i gynrychioli eu hetholaeth gan ddefnyddio'r dull Cyntaf i’r Felin. Yna roedd ail bleidlais, gan ddefnyddio pleidlais gyfrannol i ddewis ymgeiswyr i gynrychioli rhanbarthau Cymru. Roedd y cyfuniad o’r ddwy bleidlais hyn yn ethol pob Aelod o'r Senedd.
Mae'r newid sydd ar ddod i'r system bleidleisio yn 2026 yn golygu mai dim ond un bleidlais y byddwch chi'n ei bwrw dros ymgeisydd etholaethol.
Sut mae canfod rhagor am etholiad y Senedd?
Gallwch ddysgu rhagor am etholiad y Senedd drwy ymweld å’n hwb etholiadau.
