Canllaw i'r Broses Ddeddfu

Cyhoeddwyd 01/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/01/2023   |   Amser darllen munudau

Cyfraith ddrafft yw Bil. Ar ôl i’r Senedd ystyried a phasio Bil, ac ar ôl i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol gan y Brenin, mae’n dod yn ‘Ddeddf gan Senedd Cymru’. Gall Senedd Cymru basio Deddfau ar unrhyw faterion nas cedwir gan Senedd y DU o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017).

Mace

Canllawiau a Dogfennau Deddfwriaeth

Mae'r lincs a'r dogfennau isod yn cynnig gwybodaeth manwl am brosesau deddfu'r Senedd:

Canllaw i Filiau a Deddfau Cyhoeddus

Gall Lywodraeth Cymru, Pwyllgor o'r Senedd, Aelod unigol neu Gomisiwn y Senedd gynnig Bil Cyhoeddus. Mae gweithdrefnau’r Senedd sy’n berthnasol i Filiau Cyhoeddus wedi’u nodi yn Rheol Sefydlog 26.

Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Bil Cyhoeddus, sef:

  • Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a'r Senedd yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
  • Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Bil ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Bil hwnnw yn fanwl;
  • Cyfnod 3 - y Senedd yn ystyried y Bil ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Bil hwnnw yn fanwl;
  • Cyfnod 4 - pleidlais gan y Senedd i basio testun terfynol y Bil.

Mae cyfnod diwygio ychwanegol dewisol, a elwir yn gyfnod adrodd, y gellir ei gynnwys rhwng cyfnodau 3 a 4, os bydd yr Aelod sy’n gyfrifol yn cynnig hynny a bod y Senedd yn ei gymeradwyo.

Canllaw i Filiau Cydgrynhoi

Gall aelod o’r Llywodraeth gyflwyno Bil Cydgrynhoi at ddibenion cydgrynhoi deddfwriaeth sylfaenol bresennol, is-ddeddfwriaeth a chyfraith gyffredin (Rheol Sefydlog 26C.2).

Fel arfer mae pedwar cyfnod i’r broses o drafod Bil Cydgrynhoi, sef:

  • Ystyriaeth Gychwynnol – rhaid i’r pwyllgor cyfrifol ystyried a chyflwyno adroddiad sy’n trafod a ddylai'r Bil fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi;
  • Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor – y pwyllgor cyfrifol yn ystyried y Bil yn fanwl ac unrhyw welliannau a gyflwynir i’r Bil hwnnw. Rhaid i’r Pwyllgor cyfrifol hefyd ystyried a chyflwyno adroddiad sy’n trafod a ddylai’r Bil symud ymlaen i’r cyfnod Ystyriaeth Fanwl y Senedd neu’r Cyfnod Terfynol;
  • Ystyriaeth Fanwl y Senedd – y Senedd yn ystyried y Bil yn fanwl ac unrhyw welliannau a gyflwynir i’r Bil hwnnw;
  • Cyfnod Terfynol – y Senedd yn pleidleisio ar gynnig i basio testun terfynol y Bil.

Canllaw i Filiau Cydgrynhoi (PDF 151KB)

Canllaw i Filiau Preifat

Caiff Bil Preifat ei gyflwno gan unigolyn neu sefydliad y tu allan i’r Senedd er mwyn cael pwerau sy’n ychwanegol at y gyfraith gyffredinol, neu yn groes iddi. Mae gweithdrefnau’r Senedd mewn perthynas â Biliau Preifat wedi’u nodi yn Rheol Sefydlog 26A.

Nid oes Biliau Preifat ar y gweill ar hyn o bryd.

Balot ar gyfer Biliau Aelodau

O bryd i’w gilydd, rhaid i’r Llywydd gynnal Balot i benderfynu ar enw Aelod heblaw Aelod o’r Llywodraeth a gaiff ofyn am gytundeb i gyflwyno Bil Aelod.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y balot, rhaid i Aelodau gyflwyno’r wybodaeth sy’n angenrheidiol cyn y balot yn unol â Rheol Sefydlog 26.90.

Penderfyniadau’r Llywydd o ran Ffurf Briodol