Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Ceisiadau i ffilmio, tynnu ffotograffau, darlledu a recordio
Caniateir ffilmio, ffotograffiaeth, darlledu byw a recordio ar ystâd y Senedd lle bo hynny’n bosibl.
Serch hynny, cyn gwneud cais am ganiatâd, mae yna feini prawf y dylid eu hystyried ymlaen llaw.
Ni fydd y Senedd nac ystâd y Senedd yn cael ei defnyddio ar gyfer hysbysebu cynnyrch na chymeradwyo masnachol.
Ni fydd y Senedd nac ystâd y Senedd ychwaith yn cael eu defnyddio ar gyfer ffilmio, recordio na darlledu cynnwys o natur anaddas, treisgar neu gynnwys amhriodol arall.
Ni ddylai ceisiadau effeithio ar Fusnes y Senedd, hynny yw effeithio ar gyfarfodydd llawn neu gyfarfodydd pwyllgor. Lle bo modd, gellir gwneud trefniadau i ffilmio, darlledu neu recordio ar ddiwrnodau pan na chynhelir busnes.
Mae ystâd y Senedd ar agor i'r cyhoedd ac, o'r herwydd, efallai y bydd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal ar yr un pryd. Ni fyddem yn symud nac yn gohirio’r digwyddiadau hyn, a gall llawer o bobl fod yn bresennol yn rhai ohonynt a gallent ddefnyddio systemau uchelseinydd neu offer fideo.
Byddai unrhyw gais yn cael ei archwilio i weld sut mae'n cynnwys gwaith y Senedd, neu'n arddangos ystâd y Senedd.
Byddai unrhyw gais hefyd yn cael ei archwilio o safbwynt logistaidd; p'un a yw’n cynnwys llawer o bobl, offer, cerbydau ar y safle, neu gefnlenni a phropiau.
Byddai unrhyw gais yn cael ei ystyried o ran goblygiadau diogelwch posibl, gan gynnwys y gofyniad i ddarparu staff ychwanegol (y cwmni sy'n gwneud y cais fyddai’n talu am y gost honno), neu chwiliadau o gynwysyddion, offer a cherbydau gan yr heddlu (y cwmni sy'n gwneud y cais fyddai’n talu am y gost).
Byddai'n ofynnol i gynyrchiadau mawr e.e. cynyrchiadau drama, ffilmiau nodwedd neu drafodaethau panel gyda chynulleidfa stiwdio, gyflwyno asesiadau risg llawn a darparu tystiolaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Efallai y bydd angen gwneud rhagarchwiliad o’r safle i drafod y gofynion gyda staff Comisiwn y Senedd.
Mae rhagor o gyngor, gan gynnwys lleoliadau posibl ar ystâd y Senedd, capasiti ac argaeledd, ar gael gan dîm newyddion y Senedd.
Ceisiadau lluniau a fideo
Mae gan dîm newyddion y Senedd lyfrgell o fideos a delweddau stoc sydd ar gael i’w defnyddio gan y cyfryngau.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Fideos a lluniau o gyfarfodydd y Senedd yn y Siambr
- Fideos a lluniau o gyfarfodydd Pwyllgorau’r Senedd
- Fideos a lluniau o ddigwyddiadau cyhoeddus mawr ar ystâd y Senedd
- Lluniau proffil pob Aelod o'r Senedd
I gael rhagor o wybodaeth, neu i drafod ceisiadau penodol, cysylltwch â thîm newyddion y Senedd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd

Ymweld â'r Senedd
Mae adeilad y Senedd ar gau ar hyn o bryd, ond mae gennym amrywiaeth o deithiau ar-lein a gweithgareddau ymgysylltu rhithwir.

Arddangosfeydd yn y Senedd
Mae’r arddangosfeydd yn y Senedd yn gyfle i weld yr enghreifftiau gorau o’r hyn y gall Cymru ei gynnig. Maent yn amrywio o bartneriaethau â’n prif sefydliadau cenedlaethol i brosiectau a gaiff eu datblygu ar y cyd â chymunedau Cymru.

Taith rithwir o amgylch y Senedd
Waeth ble ydych yn y byd, dewch i mewn i weld y Senedd ar daith rithwir.