Cyfridiadur tabled

Cyfridiadur tabled

Cwestiynau Cyffredin ar gyfer y Cyfryngau

Cyhoeddwyd 30/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/03/2022   |   Amser darllen munudau

Dylai'r dudalen hon ateb llawer o'r cwestiynau sydd gan y cyfryngau a newyddiadurwyr ynghylch materion, prosesau a chysylltiadau’r Senedd.

 

Lle bo hynny'n briodol, rhoddir lincs i dudalennau penodol sy'n rhoi rhagor o wybodaeth, ynghyd â lincs i sefydliadau allanol os bydd unrhyw ymholiad y tu hwnt i gylch gwaith tîm newyddion y Senedd.

 

Os oes unrhyw gwestiynau sydd ar goll yn eich barn chi, neu y mae angen eu hegluro, cysylltwch â thîm newyddion y Senedd.

 

Adrannau

 

Y Cyfarfod Llawn

Pwyllgorau

Aelodau o'r Senedd

Cyfleusterau ffilmio, ffotograffiaeth a'r cyfryngau

Y Gymraeg

Hygyrchedd

Coronafeirws

 

 

Y Cyfarfod Llawn

 

Rydw i eisiau gwybod mwy am yr hyn sy’n digwydd yn y Cyfarfod Llawn.

 

Ewch i adran y Cyfarfod Llawn ar wefan y Senedd sydd â gwybodaeth am sut mae'r Cyfarfod Llawn yn gweithio, pryd mae’n digwydd, pwy gaiff siarad a gwybodaeth arall.

 

I gael gwybod beth a ddywedwyd mewn Cyfarfodydd Llawn, ewch i Gofnod y Trafodion a gallwch chwilio yn ôl dyddiad, Aelod a/neu eiriau allweddol, a hidlyddion eraill.

 

 

Pryd mae trawsgrifiad o’r Cyfarfod Llawn ar gael?

 

Mae trawsgrifiad drafft o’r Cyfarfod Llawn yn cael ei gyhoeddi yn yr iaith a siaredir ar sail dreigl ac yn dechrau ymddangos tua awr ar ôl dechrau'r Cyfarfod Llawn. Caiff ei ddiweddaru bob chwarter awr. 

 

Cyhoeddir Cofnod y Trafodion ei hun ar-lein o fewn 24 awr ac mae'n cynnwys lincs i'r canlyniadau pleidleisio llawn, i fywgraffiadau’r Aelodau ac i Senedd TV.  Mae hefyd yn bosibl rhannu cyfraniadau unigol gan Aelodau ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae opsiynau i'w copïo fel testun plaen er mwyn eu hargraffu yn hawdd. 

 

Cyhoeddir y fersiwn derfynol ddwyieithog, gyda phob cyfraniad yn y ddwy iaith, o fewn tri diwrnod gwaith. Mae’r atebion i gwestiynau llafar na gafodd eu cyrraedd yn y Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi o fewn 24 awr.

 

Ceir rhagor o wybodaeth am gyfieithu a chyfieithu ar y pryd yma.

 

 

Sut y galla i ddarganfod canlyniad pleidlais yn y Cyfarfod Llawn?

 

Cynhelir pleidleisiau yn electronig fel arfer, ac mae'r canlyniad yn cael ei arddangos yn fuan ar ôl i bleidleisiau gael eu bwrw ar sgriniau yn y siambr. Maent yn cael eu dangos ar Senedd TV. Yna, caiff y canlyniad ei nodi yng Nghofnod y Trafodion.

 

 

Sut y galla i ddarganfod pa Aelod a bleidleisiodd ym mha ffordd?

 

Fel arfer, mae canlyniadau pleidleisio, gan gynnwys pleidleisiau Aelodau unigol, yn cael eu cyhoeddi yn fuan ar ôl i'r cyfarfod ddod i ben ac maent ar gael i'w gweld ar Gofnod y Trafodion.

 

 

Sut y galla i ddarganfod beth yw cynnydd Bil?

 

Ewch i’r adran Deddfwriaeth ar wefan y Senedd i weld pa gyfnod y mae Bil arno.

 

Ac mae rhagor o wybodaeth ar gael am sut mae deddfau’n cael eu gwneud yma.

 

 

Beth yw'r system bleidleisio yn y Senedd?

 

Cynhelir pleidleisiau electronig mewn Cyfarfodydd Llawn, naill ai trwy fotymau pleidleisio yn y Siambr, neu drwy ap diogel sydd ar gael i Aelodau sy'n bresennol yn rhithwir.

 

Os na fydd y system bleidleisio electronig yn gweithio, mae gan y Llywydd opsiwn i godi dwylo, neu alw Aelodau o’r Senedd yn unigol am eu pleidlais.

 

 

Beth y mae Aelodau’n pleidleisio arno?

 

Mae’r Aelodau’n pleidleisio ar yr hyn a ganlyn:

 

  • Deddfau a diwygiadau i ddeddfau
  • Rheoliadau
  • Cynigion a gwelliannau i gynigion
  • Cyllideb Llywodraeth Cymru
  • Cyllideb Comisiwn y Senedd
  • Adroddiadau blynyddol
  • Newidiadau i reolau’r Senedd, a elwir yn Rheolau Sefydlog.

 

 

Sut y galla i wylio’r Cyfarfod Llawn neu gyfarfodydd pwyllgor?

 

Mae ffrwd fyw o’r Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd pwyllgorau ar gael ar www.senedd.tv. Mae gan y wefan nodweddion saib a symud y fideo yn ôl, yn ogystal â fideo ar alw. Mae linciau eitemau’r agenda yn eich arwain at yr adran berthnasol yn y fideo. Mae'r holl gyfarfodydd blaenorol ar gael ar Senedd TV hefyd ac mae linc yn mynd â chi atynt o agendâu Cyfarfodydd Llawn a chyfarfodydd pwyllgorau a thrawsgrifiadau cyfarfodydd.

 

O dan gyfyngiadau’r coronafeirws, cynhelir y Cyfarfod Llawn ar ffurf hybrid, gyda 20 Aelod o’r Senedd yn cael bod yn bresennol yn y Siambr a’r 40 sy’n weddill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

 

Os na chynhelir cyfarfod ar ystâd y Senedd, mae ffrydio byw yn cael ei ystyried fesul achos, gan gynnwys ffactorau fel band eang a lled band.

 

 

A allaf recordio, lawrlwytho neu glipio trafodion y Senedd?

 

Mae Senedd TV yn caniatáu i wylwyr lawrlwytho neu osod (embed) trafodion y Senedd. Mae canllaw ar sut i wneud hynny ar gael ar Senedd TV.

 

Mae fideos Senedd TV yn ddarostyngedig i gyfyngiadau trwyddedu Creative Commons.

 

 

Pwyllgorau

 

Rwyf eisiau gwybod rhagor am ymchwiliad pwyllgor.

 

Rhan o waith pwyllgorau craffu’r Senedd yw archwilio polisïau Llywodraeth Cymru mewn meysydd fel iechyd, yr economi, yr amgylchedd ac addysg.

 

Gall pwyllgorau gynnal ymchwiliadau, gan gasglu tystiolaeth gan y cyhoedd, rhanddeiliaid, partion sydd â buddiant a Llywodraeth Cymru. Fel arfer, cyhoeddir adroddiad ar ddiwedd ymchwiliad neu, o bryd i’w gilydd, cyhoeddir llythyr gyda chyfres o argymhellion.

Mae mwy o wybodaeth am ymchwiliad penodol ar gael ar dudalennau perthnasol y pwyllgorau, gan gynnwys cyfarfodydd blaenorol a chyfarfodydd sydd ar y gweill, ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus a gohebiaeth â gweinidogion Llywodraeth Cymru.

 

 

Sut y galla i ddarganfod beth sy'n digwydd mewn cyfarfod pwyllgor Senedd?

 

Mae pwyllgorau'r Senedd yn cyhoeddi manylion agendâu cyfarfodydd hyd at bum niwrnod ymlaen llaw. Gallwch weld agendâu cyfarfodydd yng nghalendr y Senedd, sydd ar dudalennau gwe neu sianeli cyfryngau cymdeithasol y Pwyllgor.

 

 

Sut y galla i ddarganfod pryd y bydd pwyllgor Senedd yn cyhoeddi adroddiad?

 

Pan fydd un o bwyllgorau’r Senedd yn ystyried bil (deddf arfaethedig), nodir amserlen ddeddfwriaethol gan gynnwys dyddiad ar gyfer cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor.

 

Fel rheol nid oes amserlenni penodol na therfynau amser adrodd ar gyfer craffu ar bolisïau ac ymchwiliadau eraill. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y Pwyllgor drwy ddilyn ei sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Pryd mae trawsgrifiadau cyfarfodydd pwyllgor ar gael?

 

Mae trawsgrifiadau o gyfarfodydd pwyllgorau ar gael ar ffurf ddrafft o fewn tri i bum diwrnod gwaith, ac mae fersiwn derfynol yn cael ei chyhoeddi o fewn 10 diwrnod gwaith.

 

Mae trawsgrifiadau pwyllgorau'n cynnwys y cyfieithiad ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg a ddarlledwyd yn ystod y cyfarfod, ond ni chaiff y cyfraniadau Saesneg eu cyfieithu i'r Gymraeg.

 

 

 

Aelodau o’r Senedd

 

 

Rwyf am wybod mwy am gyflog, treuliau a lwfansau Aelodau o’r Senedd

 

Gellir dod o hyd i wybodaeth am gyflog, treuliau a lwfansau Aelodau yn yr adran Aelodau o’r Senedd ar y wefan.

 

Cyhoeddir hawliadau treuliau Aelodau bob chwarter.

 

 

Pwy sy’n penderfynu ar gyflog, treuliau a lwfansau Aelodau o’r Senedd?

 

Y Bwrdd Taliadau annibynnol sy’n pennu cyflogau, treuliau a lwfansau Aelodau o’r Senedd. Mae ei benderfyniad diweddaraf a chyhoeddiadau eraill ar gael ar wefan y Bwrdd Taliadau.

 

Mae gen i gwestiwn am ymddygiad Aelodau o’r Senedd.

 

Mae cod ymddygiad Aelodau o’r Senedd ar gael yn adran yr Aelodau ar wefan y Senedd.

 

Comisiynydd Safonau annibynnol Cymru sy’n cynnal ymchwiliadau i ymddygiad Aelodau.

 

Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd yn adolygu adroddiadau gan y Comisiynydd Safonau ac yn argymell unrhyw gosbau posibl ar gyfer torri’r cod. Cynhelir dadl am unrhyw gosb a argymhellir ac yna mae Aelodau o’r Senedd yn pleidleisio arni.

 

Ni chaiff tîm newyddion y Senedd wneud unrhyw sylwadau ynghylch a yw Aelod wedi torri’r cod ymddygiad ai peidio, neu a oes cwyn wedi cael ei chyflwyno i’r Comisiynydd Safonau.

 

 

Rydw i eisiau siarad ag Aelod penodol o’r Senedd.

 

Mae manylion cyswllt Aelodau o’r Senedd ar gael ar dudalennau proffil unigol yr Aelodau.

 

 

Rydw i eisiau siarad neu gyfweld â gweinidog Llywodraeth Cymru.

 

Cysylltwch â swyddfa cyfryngau Llywodraeth Cymru ar 0300 025 8099.

 

 

Mae gen i gwestiwn am bolisi neu gyhoeddiad Llywodraeth Cymru.

 

Anfonwch eich cwestiwn at swyddfa cyfryngau Llywodraeth Cymru ar 0300 025 8099.

 

 

Mae gen i gwestiwn am rywbeth y mae gweinidog Llywodraeth Cymru wedi’i ddweud yn y Cyfarfod Llawn neu mewn datganiad neu gyfweliad.

 

Mae trawsgrifiad bras o drafodion y Cyfarfod Llawn yn cael ei gyhoeddi fesul awr, wrth i’r cyfarfod fynd rhagddo. Mae fersiwn wedi’i chyfieithu ar gael cyn pen 24 awr.

 

Gallwch hefyd wylio'r Cyfarfod Llawn yn fyw ac ar alw ar senedd.tv.

 

Dylech gyfeirio unrhyw gwestiwn am rywbeth y mae gweinidog Llywodraeth Cymru wedi’i ddweud yn y Cyfarfod Llawn, neu mewn datganiad neu gyfweliad, at swyddfa cyfryngau Llywodraeth Cymru ar 0300 025 8099.

 

 

Rwyf eisiau cael ymateb gan blaid neu grŵp gwleidyddol.

 

Cysylltwch â'r blaid neu'r grŵp gwleidyddol perthnasol yn uniongyrchol.

 

 

Rwyf eisiau siarad neu gyfweld â'r Llywydd.

 

Cysylltwch â thîm newyddion y Senedd oni bai bod yr ymholiad yn ymwneud â mater mewn cysylltiad ag etholaeth neu waith rhanbarthol yr Aelod.

 

 

Rwyf am gael ymateb gan y Senedd am rywbeth a ddywedodd Aelod neu aelod o'r cyhoedd.

 

Efallai y gall tîm newyddion y Senedd ddarparu rhagor o wybodaeth neu ymateb ar gyfer ymholiad penodol.

 

 

 

Cyfleusterau ffilmio, ffotograffiaeth a'r cyfryngau

 

Pa gyfleusterau sydd ar gael ar gyfer y cyfryngau a newyddiadurwyr ar ystâd y Senedd?

 

Mae lobi’r Senedd yn darparu swyddfeydd a gofod stiwdio i newyddiadurwyr o’r BBC, ITV ac ITN. Mae’r ystafell i ysgrifenwyr yn darparu desgiau i ohebwyr y Senedd o bapurau newydd cenedlaethol a lleol a’r cyfryngau ar-lein.

 

Gall deiliaid pas y cyfryngau gael mynediad i rai rhannau o ystâd y Senedd, gan gynnwys ardal y Cwrt y tu allan i'r Siambr a’r ystafelloedd pwyllgora yn adeilad y Senedd.

 

Mae pwynt ISDN ar gael i orsafoedd radio ei archebu drwy dîm newyddion y Senedd.

 

Darperir wifi ar draws ystâd y Senedd.

 

Caniateir ffilmio, darlledu byw a recordio ar ystâd y Senedd.

 

Dylai unrhyw un sy'n dymuno gwneud hynny edrych ar feini prawf cais ffilmio a ffotograffiaeth y Senedd yn gyntaf.

 

 

Sut mae gwneud cais am bas cyfryngau?

 

Mae’r lle sydd ar gael ar gyfer y cyfryngau a newyddiadurwyr ar ystâd y Senedd yn gyfyngedig. Gweler ein hadran ar basys y cyfryngau, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, cyn gwneud cais.

 

 

 

A allaf ffilmio/recordio/dynnu ffotograffau yn yr orielau cyhoeddus?

 

Caniateir ffilmio, recordio a ffotograffiaeth yn orielau cyhoeddus y Senedd fesul achos.  Dylai’r cyfryngau sy'n dymuno gwneud hynny gyflwyno cais ffilmio a ffotograffiaeth yn gyntaf.

 

A allaf ofyn am fideos neu ffotograffau?

 

Mae gan dîm newyddion y Senedd gronfa o fideos a ffotograffau stoc sydd ar gael i’w defnyddio gan y cyfryngau. Cysylltwch â’r tîm newyddion gyda’ch cais.

 

A oes gan y Senedd swyddfeydd rhanbarthol y gallaf eu defnyddio?

 

Mae ystâd y Senedd yn cynnwys y Senedd, Tŷ Hywel a'r Pierhead ym Mae Caerdydd. Mae yna hefyd swyddfa ganolfan gyswllt ym Mae Colwyn, ond nid yw hon ar gael i'w defnyddio gan y cyfryngau.

 

Nid oes gan y Senedd unrhyw swyddfeydd eraill.

 

 

A allaf ffilmio, dynnu ffotograffau neu ddarlledu’n fyw ar ystâd y Senedd?

 

Caniateir ffilmio, darlledu byw a ffotograffiaeth ar ystâd y Senedd.

 

Ewch i’r adran ceisiadau ffilmio a ffotograffiaeth ar ein gwefan i gael mwy o fanylion am feini prawf a sut i wneud cais.

 

 

Pwy sy’n gyfrifol am etholiadau’r Senedd a’r dull pleidleisio?

 

Y Senedd sydd â’r pwerau i osod rheolau etholiadau’r Senedd, gan gynnwys y dull pleidleisio.

 

Y Comisiwn Etholiadol sy’n rheoli etholiadau’r Senedd, gan gynnwys ymgeiswyr, cyfrif pleidleisiau a chanlyniadau.

 

 

Y Gymraeg

 

Beth yw polisi’r Senedd mewn perthynas â'r Gymraeg?

 

Nodir polisi’r Senedd mewn perthynas â'r Gymraeg o dan Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012. O dan y Deddf, gall Aelodau o’r Senedd, staff ac ymwelwyr siarad y naill iaith neu'r llall.

 

Mae rhagor o wybodaeth am bolisi’r Senedd mewn perthynas â’r Gymraeg ar gael yma.

 

 

A oes rhaid i mi siarad Cymraeg er mwyn bod yn aelod o’r cyfryngau?

 

Nac oes. Mae’r Senedd yn sefydliad dwyieithog sy’n golygu y gall pobl siarad yr iaith y maen nhw’n ei dewis.

 

Mae’r Gymraeg yn cael ei chyfieithu i'r Saesneg yn ystod sesiynau byw y Cyfarfod Llawn a phwyllgorau a chyhoeddir holl wybodaeth a chyhoeddiadau'r Senedd yn ddwyieithog.

 

Caiff Aelodau, staff, ymwelwyr a phobl eraill sy'n gweithio ar ystâd y Senedd eu hannog a'u cefnogi i ddefnyddio'r Gymraeg.

 

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein polisi dwyieithrwydd.

 

Hygyrchedd

 

Pa mor hygyrch yw ystâd y Senedd?

 

Mae dolenni sain, arwyddion braille a rampiau cadair olwyn ymysg y cyfleusterau sydd ar gael i bobl sydd naill ai'n gweithio ar ystâd y Senedd neu'n ymweld â hi.

 

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein polisïau hygyrchedd.

 

 

Coronafeirws

 

Sut mae'r Senedd yn gweithredu yng nghyfnod y coronafeirws?

 

Gall y Senedd weithredu ar ffurf hybrid, gyda’r Cyfarfodydd Llawn yn cael eu cynnal yn y Siambr ac yn rhithwir drwy fideogynadledda.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y Senedd a’r coronafeirws ar gael yma.

 

A allaf ymweld ag ystâd y Senedd o dan gyfyngiadau’r coronafeirws?

 

Ar hyn o bryd dim ond staff a phersonél hanfodol all gael mynediad i ystâd y Senedd. Fodd bynnag, mae’r cyfryngau a newyddiadurwyr yn dal i allu bod yn bresennol, ond mae hyn yn gyfyngedig. Dylai unrhyw ddeiliad pas y cyfryngau sydd am ymweld â’r ystâd gysylltu â thîm newyddion y Senedd i gadarnhau.