


Ieithoedd Swyddogol
Cyhoeddwyd 01/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/11/2020   |   Amser darllen munudau
Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn ieithoedd swyddogol yn y Senedd ac mae Comisiwn y Senedd yn rhoi arweiniad cryf ac uchelgeisiol wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Mae’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn nodi’r hyn y mae’r Senedd yn ei ddarparu’n ddwyieithog a’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud yn y maes hwnnw.
Cafodd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pumed Cynulliad ei fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cynulliad ar 12 Gorffennaf 2017.
- Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol (pdf: 2.0 MB)
Yn ogystal â nodi'r safonau gwasanaethau yr ydym eisoes yn eu darparu, mae'r Cynllun yn amlinellu pum thema y byddwn yn canolbwyntio arnynt, sef:
- recriwtio;
- sgiliau iaith;
- cynllunio ieithyddol;
- trafodion y Senedd;
- datblygu ethos dwyieithog y sefydliad.
Adroddiadau blynyddol
Caiff adroddiad ei lunio bob blwyddyn sy’n nodi’r ffordd y mae’r Senedd yn cyflawni ei ddyheadau ar gyfer y Cynllun Ieithoedd Swyddogol. Mae hefyd yn adrodd ar unrhyw enghreifftiau o dorri’r Cynllun. Caiff yr adroddiad ei gyflwyno gerbron y Senedd ac mae'n destun dadl yn y Cyfarfod Llawn.
Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol blaenorol
Cafodd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Cynulliad ym mis Gorffennaf 2013 ac mae’n seiliedig ar Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012.
Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad (pdf: 1.45MB)
Adroddiadau Blynyddol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad
Dyma'r adroddiadau blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad.
- Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol - adroddiad cydymffurfio blynyddol 2014 (pdf: 3.02MB)
- Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol - adroddiad cydymffurfio blynyddol 2015 (pdf: 5.67MB)
- Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol - adroddiad cydymffurfio blynyddol 2016 (pdf: 2.0 MB)
- Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol - adroddiad cydymffurfio blynyddol 2017 (pdf: 2.1 MB)
Y Strategaeth Sgiliau Dwyieithog
Ym mis Ebrill 2015, cyhoeddwyd ein Strategaeth Sgiliau Dwyieithog. Mae’r strategaeth yn amlinellu’r hyn y bydd y Comisiwn yn ei wneud i ddarparu cefnogaeth seneddol o’r radd flaenaf yn y ddwy iaith swyddogol. Mae’n nodi pedwar maes gweithredu: codi ymwybyddiaeth; lefel y sgiliau cyfredol; sgiliau iaith ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog; a dysgu Cymraeg neu wella sgiliau Cymraeg.
- Y Strategaeth Sgiliau Dwyieithog 2015 (pdf: 985KB)
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Comisiwn y Senedd a Chomisiynydd y Gymraeg
- Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth (pdf: 1.85MB)