Ystafell Bwyllgora

Ystafell Bwyllgora

Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol y Comisiwn

Cyhoeddwyd 19/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/10/2023   |   Amser darllen munudau

Llywodraethu Corfforaethol a Rheoli Mewnol

Defnyddir y term llywodraethu corfforaethol i ddisgrifio sut y caiff sefydliadau eu cyfarwyddo, eu rheoli a'u harwain. Mae'n diffinio cysylltiadau, atebolrwydd a chyfrifoldebau yn y sefydliad ac yn pennu'r rheolau a'r gweithdrefnau y mae'r sefydliad yn eu defnyddio i fonitro perfformiad yn ôl ei nodau a'i amcanion.

Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol a System Rheoli Mewnol

Dyma brif elfennau fframwaith llywodraethu corfforaethol a system rheoli mewnol y Comisiwn Senedd:

Effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu a rheoli mewnol

Mae yna nifer o ffyrdd o asesu effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli mewnol Senedd:

  • Asesu mewnol - cynhelir asesiad mewnol blynyddol i brofi effeithiolrwydd y fframwaith llywodraethu corfforaethol a rheoli mewnol, ac ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ohono. Cyhoeddir y manylion yn y Datganiad Llywodraethu blynyddol gan y Prif Weithredwr a'r Clerc (Swyddog Cyfrifyddu) fel rhan o Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon y Comisiwn.
  • Ffynonellau annibynnol o gyngor a sicrwydd - mae'r Comisiwn, y Prif Weithredwr a'r Clerc ac uwch reolwyr hefyd yn cael cyngor annibynnol ynghylch rheoli a llywodraethu'r Senedd, a hynny gan y canlynol:
    • Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd - pwyllgor cynghori sy'n cael ei gadeirio gan gynghorwr annibynnol; cynrychiolaeth Archwilio Cymru/Archwilio Mewnol; swyddogaethau yn unol â Llawlyfr Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Trysorlys EM.
    • Mae'r Pwyllgor Taliadau yn gwneud argynhellion yn ymwneud â thaliadau a thelerau gwasanaeth Clerc y Senedd a’r Cyfarwyddwyr.  Mae hyn yn cynorthwyo’r Comisiwn i sicrhau bod trefniadau tâl yn cyrraedd y safonau uchaf o ran cywirdeb ac atebolrwydd o ran defnyddio cronfeydd cyhoeddus.
    • Archwilio mewnol - Mae gwasanaethau Archwilio Mewnol y Comisiwn yn cael eu darparu gan y Pennaeth Archwilio Mewnol. Ategir hyn gan gontract ar gyfer darparu gwasanaethau archwilio mewnol ychwanegol. Yn gweithredu'n unol â safonau archwilio mewnol y sector cyhoeddus.
    • Archwilio allanol - Archwilio Cymru
    • Cynghorwyr annibynnol - Mae’r Comisiwn yn penodi Cynghorwyr Annibynnol i sicrhau bod Comisiynwyr a thîm gweithredol y Comisiwn yn cael her adeiladol a sicrwydd bod trefniadau llywodraethu yn gywir, yn effeithiol ac yn briodol.

Yn ogystal, mae  Cymru wedi sefydlu'r cyrff statudol annibynnol a ganl Cymru wedi sefydlu'r cyrff statudol annibynnol a ganlyn i gyflawni swyddogaethau penodol:

  • Y Bwrdd Taliadau annibynnol - yn gyfrifol am sicrhau bod gan Aelodau'r  adnoddau teg a phriodol i gyflawni eu rolau. adnoddau teg a phriodol i gyflawni eu rolau.
  • Comisiynydd Safonau y Senedd - yn rhoi cyngor a chymorth ar unrhyw fater o egwyddor sy'n ymwneud ag ymddygiad Aelodau'r , ac yn ymchwilydd annibynnol ar gyfer cwynion sy'n honni bod Aelodau'r , ac yn ymchwilydd annibynnol ar gyfer cwynion sy'n honni bod Aelodau'r  wedi torri unrhyw God, Protocol neu benderfyniad gan y wedi torri unrhyw God, Protocol neu benderfyniad gan y Senedd.