Egwyddorion llywodraethu a darpariaethau ategol

Cyhoeddwyd 24/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/09/2021   |   Amser darllen munudau

Cyflwyniad  

1.  Llywodraethu corfforaethol yw’r ffordd y mae sefydliadau’n cael eu cyfarwyddo, eu rheoli a’u harwain. Mae’n diffinio cydberthnasau a’r modd y caiff hawliau a chyfrifoldebau eu dosbarthu ymhlith y rhai sy’n gweithio yn y sefydliad a chydag ef, yn penderfynu ar y rheolau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir i bennu amcanion y sefydliad, ac yn darparu’r dull o gyflawni’r amcanion hynny ac o fonitro perfformiad. Yn bwysig ddigon, mae’n diffinio pwy sydd ag atebolrwydd ar draws y sefydliad. 

2.  Mae Comisiwn y Senedd (y Comisiwn) wedi’i sefydlu fel corff corfforaethol i ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau sy’n angenrheidiol i gefnogi diben y Senedd a’i Haelodau. Mae hyn yn cynnwys bod yn gyfrifol am y trefniadau llywodraethu i hwyluso gweithrediad effeithiol y Comisiwn i gyflawni ei nodau a'i amcanion strategol.

3.  Mae Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi’r egwyddorion y dylid arfer swyddogaethau’r Comisiwn yn unol â hwy. Sef:

  • Rhaid i Gomisiwn y Senedd wneud trefniadau priodol o ran cadarnhau bod ei swyddogaethau’n cael eu harfer gan ystyried yr egwyddor y dylid sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
  • Wrth arfer swyddogaethau Comisiwn y Senedd, rhaid rhoi sylw priodol i'r egwyddor o hyrwyddo datblygu cynaliadwy.
  • Wrth arfer swyddogaethau Comisiwn y Senedd, rhaid rhoi effaith, cyn belled ag sy’n briodol yn yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, i’r egwyddor y dylai’r iaith Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin yn gyfartal.

4. Ochr yn ochr â'r gofynion deddfwriaethol mae Fframwaith Llywodraethu'r Comisiwn. Mae’r Fframwaith hwn, sy’n cynnwys y strwythurau, systemau, prosesau, polisïau, rheolau, gweithdrefnau, diwylliant a gwerthoedd sy’n cyfeirio a rheoli’r Comisiwn, yn ganolog i weithrediad effeithiol y sefydliad.

5. Corfforaeth nad yw’n gwneud elw yw Comisiwn y Senedd, ond mae angen iddo weithredu fel busnes a hynny yn unol ag egwyddorion cydnabyddedig llywodraethu da:

  • arweinyddiaeth – mynegi gweledigaeth glir ar gyfer y sefydliad a dangos yn eglur sut y mae gweithgareddau’n cyfrannu at gyflawni’r weledigaeth hon, gan gynnwys pennu’r parodrwydd i dderbyn risg a rheoli risg;
  • effeithiolrwydd – defnyddio amrywiaeth eang o brofiadau perthnasol, gan gynnwys drwy gynnig her gadarn, a chraffu ar berfformiad;
  • atebolrwydd – hyrwyddo tryloywder drwy ddulliau adrodd clir a theg; a
  • cynaliadwyedd – llunio barn synhwyrol ar gyfer yr hirdymor am yr hyn y mae’r sefydliad yn ceisio’i gyflawni a’r hyn y mae’n ei wneud i gyrraedd ei nod.

6. Yn unol â hyn a'i Fframwaith Llywodraethu, mae'r Comisiwn wedi mabwysiadu'r egwyddorion a'r darpariaethau ategol a nodir yn y ddogfen hon. Yn ogystal ag ymdrin â'r elfennau arweinyddiaeth, effeithiolrwydd ac atebolrwydd a nodir uchod, maent hefyd yn amlinellu trefniadau ar gyfer rheoli risg a rheolaeth fewnol; taliadau i Aelodau o'r Senedd, deiliaid swyddi ac uwch reolwyr; a chysylltiadau ag Aelodau o'r Senedd. Gyda'i gilydd, bwriedir iddynt helpu i feithrin diwylliant o weithredu effeithiol ym mhob rhan o'r sefydliad a fydd, yn eu tro, yn helpu'r Comisiwn i gyflawni ei nodau a’i amcanion a’r broses o reoli risgiau busnes allweddol.

7. Mae'r egwyddorion a'r darpariaethau ategol hyn, a ddefnyddir i lywio gwaith y Comisiwn a'i staff, yn gyson ag elfennau perthnasol y codau llywodraethu a ganlyn, gydag amrywiadau sy'n briodol ar gyfer sefydliad seneddol:

- Cod Llywodraethu Corfforaethol y DU, a gyhoeddir gan y Cyngor Adrodd Ariannol; a

- Chod Arfer Da Llywodraethu Corfforaethol mewn adrannau llywodraeth ganolog, a gyhoeddir ar y cyd gan Drysorlys EM a Swyddfa’r Cabinet.

8. Maent hefyd yn ystyried y Fframwaith Rhyngwladol: Llywodraethu Da yn y Sector Cyhoeddus.

9. O ran ymddygiadau i gefnogi'r egwyddorion hyn a’r darpariaethau ategol, mae'r Codau Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd a staff y Comisiwn yn nodi pwysigrwydd cadw at y saith egwyddor bywyd cyhoeddus (Egwyddorion Nolan). Mae'r rhain yn hyrwyddo diwylliant o fod yn agored ac uniondeb. Mae'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd sydd wedi'i ddiweddaru ar gyfer y Chweched Senedd hefyd yn cynnwys wythfed egwyddor o barch yn unol â pholisïau'r Comisiwn ar urddas a pharch.

10. Dylid adolygu'r egwyddorion hyn a'r darpariaethau ategol o bryd i'w gilydd er mwyn ystyried unrhyw newidiadau i drefniadau llywodraethu a/neu godau a chanllawiau wedi’u diweddaru.