Pwrpas Staff y Senedd yw cefnogi'r Senedd i sicrhau ei fod yn gweithredu’n llwyddiannus fel corff democrataidd.
Mae’n gweithredu dan gyfarwyddyd a chyfeiriad y Llywydd a phedwar Aelod o'r Senedd arall sy’n cynrychioli’r pleidiau gwleidyddol eraill. Caiff gweithrediadau o ddydd i ddydd eu dirprwyo i Glerc a Phrif Weithredwr y Senedd.
Mae hyn yn cynnwys ystod eang o weithgareddau yn cynnwys:
- Darparu swyddfeydd, cyfleusterau, cyfarpar a gwybodaeth y mae eu hangen ar Aelodau’r Senedd i wneud eu gwaith;
- Cefnogi Pwyllgorau’r Senedd a’r Cyfarfod Llawn drwy roi cyngor ar weithdrefnau, cyngor cyfreithiol a chyngor arall;
- Darparu gwasanaethau cyfieithu, cyfieithu ar y pryd a gwasanaethau cofnodi sy’n sicrhau y gall y Senedd weithredu yn Gymraeg a Saesneg;
- Darparu gwybodaeth ac addysg am y Senedd i’r cyhoedd; a
- Darparu gwybodaeth ac addysg i’r cyhoedd am rôl seneddol y Senedd a thrwy drefnu ymweliadau â’r Senedd ac oddi yno.
Nid gweision sifil yw staff y Senedd. Maent yn annibynnol o’r Llywodraeth a gweithredant yn ddiduedd ar ran y Senedd.
Swyddi yng Nghomisiwn y Senedd
Mae Comisiwn y Senedd yn cyflogi oddeutu 460 o staff sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cefnogi i’r 60 Aelod o'r Senedd. Rydym yn cyflogi pobl sydd ag ystod eang o ddoniau mewn meysydd fel:
- Gweinyddu
- Technoleg Gwybodaeth
- Gwasanaethau Clercio
- Cyfreithiol
- Datblygu Polisi Corfforaethol
- Gwasanaethau Llyfrgell
- Cyfathrebu Allanol
- Gwybodaeth i’r Cyhoedd ac Addysg
- Rheoli Digwyddiadau
- Ymchwil
- Rheoli Cyfleusterau
- Diogelwch
- Gwasanaethau Ariannol
Sylwadau gan ein staff

Delyth Lewis - Rheolwr Prosiect Senedd Ieuenctid
Mae’r Cynulliad yn lle gwych i weithio, o’r cydweithwyr rhyfeddol i’r heriau gwahanol a’r cyfleoedd i wthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl, rydych yn cael eich atgoffa bob dydd o’ch rhan chi yn y gwaith o sicrhau bod democratiaeth Cymru yn ffynnu ac yn berthnasol i bobl Cymru.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd

Gweler swyddi gwag diweddaraf y Comisiwn
Dyma'r rolau cyfredol diweddaraf sydd ar gael yn gweithio i Gomisiwn y Senedd

Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym am barhau i fod yn sefydliad cynhwysol, lle mae ein cyfleoedd cyflogaeth yn agored i bawb a lle y gall pobl Cymru ymgysylltu â'n gwaith. Darllenwch fwy i ganfod sut rydym yn cynnwys amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth rydym yn ei wneud.