Sylwadau gan ein staff - Delyth Lewis

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/01/2021   |   Amser darllen munudau

Delyth Lewis Ymunais i â’r Cynulliad yn 2002. Dechreuais fy ngyrfa fel aelod o’r Tîm Addysg a Gwybodaeth i’r Cyhoedd yn gweithio ar y ddesg flaen gan roi teithiau tywys o’r Siambr a’r Pierhead – roedd hynny cyn i’r Senedd gael ei hadeiladu! 

 

Yna, cefais swydd yn y Tîm Rhanbarthol Gwybodaeth i’r Cyhoedd, fel yr oedd ar y pryd, a fy ngwaith i oedd rhannu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o’r Cynulliad yn rhanbarth De Cymru. Roedd yn gyfle arbennig i gwrdd â’r cyhoedd â’u helpu i ddeall yn well sut y mae’r Cynulliad yn gweithio a beth y mae’n gyfrifol amdano. Yn y pen draw, cefais swydd fel rheolwr digwyddiadau a oedd yn cynnwys trefnu holl ddigwyddiadau’r Cynulliad fel digwyddiadau i groesawu ein timau cenedlaethol adref ar ôl llwyddiant yn y byd chwaraeon, a’n presenoldeb ym mhrif ddigwyddiadau Cymru gan gynnwys y Sioe Frenhinol, Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. 

 

Yn 2015, cefais fy mhenodi yn rheolwr prosiect ar gyfer agoriad swyddogol y Cynulliad yn 2016 – digwyddiad arwyddocaol a oedd yn cynnwys aelod o’r teulu brenhinol, y lluoedd arfog, y cyfryngau ac amrywiaeth eang o randdeiliaid o Gymru, y DU a gwledydd eraill. Er bod llawer o bwysau arnaf, roedd y gwaith yn hynod gyffrous ac roedd yn fraint enfawr cael gweithio ar ddigwyddiad a oedd yn rhoi lle canolog i agoriad y Cynulliad yng nghalendr gwleidyddol y DU a’r calendr rhyngwladol. 

 

Bellach, rwy’n rheoli prosiect Senedd Ieuenctid Cymru, sef menter newydd i’n sefydliad ac rwy’n mwynhau’r gwaith yn arw. Mae 60 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ac rwy’n rheoli amrywiaeth gyffrous o gyfleoedd ymgysylltu, a chyfarfodydd a digwyddiadau uchel eu proffil ac yn ymdrin â cheisiadau gan y wasg i sicrhau bod gan bobl ifanc Cymru lais ar lwyfan cenedlaethol ar y materion sydd bwysicaf iddyn nhw.                           

 

Mae’r Cynulliad yn lle gwych i weithio, o’r cydweithwyr rhyfeddol i’r heriau gwahanol a’r cyfleoedd i wthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl,  rydych yn cael eich atgoffa bob dydd o’ch rhan chi yn y gwaith o sicrhau bod democratiaeth Cymru yn ffynnu ac yn berthnasol i bobl Cymru.