Rhyddid Gwybodaeth

Cyhoeddwyd 26/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/02/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi hawl cyffredinol i'r cyhoedd weld gwybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus.

Nid yw'r Senedd yn cael ei gwmpasu gan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Fodd bynnag, os gwneir cais am y fath wybodaeth drwy anfon e-bost at Ceisiadau-gwybodaeth@senedd.cymru mae'n bosibl y byddwn ystyried datgelu'r wybodaeth.

Cyn gwneud cais am wybodaeth, dylech gofio ei bod yn bosibl ein bod eisoes wedi cyhoeddi'r hyn yr ydych yn chwilio amdano. Gallwch ddefnyddio ein Cynllun Cyhoeddi i weld a yw'r wybodaeth hon eisoes ar gael. Mae'r Cynllun Cyhoeddi hwn yn rhwymo'r Senedd i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'i gweithgareddau busnes arferol. Mae'r Arweiniad i wybodaeth (PDF 255KB) yn cynnwys rhagor o fanylion am y wybodaeth yr ydym yn ei chyhoeddi.

Mae ein Cod Ymarfer ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth yn amlinellu'r egwyddorion y byddwn yn eu dilyn er mwyn bodloni ein hymrwymiadau a'n rhwymedigaethau o dan y deddfau a restrir uchod. Gallwch ofyn am gopi o'r Cod drwy ysgrifennu at:

Senedd Cymru
Llywodraethu a Sicrwydd
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Mae ein gwefan yn rhestru achosion arwyddocaol o wybodaeth a ddatgelwyd mewn ymateb i geisiadau am wybodaeth trwy'r Cofnod datgelu. Ni chyhoeddir datgeliadau a wneir o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Sut i ofyn am wybodaeth

Gallwch ofyn i'r Senedd am unrhyw wybodaeth y mae'n ei chadw. Byddwn yn rhoi gwybod i chi a oes gennym y wybodaeth honno ac yn ei hanfon atoch, oni bai y gallwn gyfiawnhau gweithredu eithriad. Mewn achos o'r fath, byddwn yn esbonio pam yr ydym yn defnyddio eithriadau.


Pan fyddwch yn anfon eich cais atom, rhaid i chi nodi enw a chyfeiriad ar gyfer gohebiaeth, er mwyn ein galluogi i anfon y wybodaeth atoch. Yn ogystal, rhaid i chi ddisgrifio'r wybodaeth yr ydych yn dymuno ei chael mor fanwl â phosibl er mwyn inni ddeall eich cais yn iawn. Os byddwn angen ragor o fanylion gennych, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwch yn ymwybodol o'n polisi preifatrwydd Mynediad at Wybodaeth.

I ofyn am wybodaeth, anfonwch neges e-bost at Ceisiadau-gwybodaeth@senedd.cymru neu ffoniwch 0300 200 6565. Os ydych am anfon llythyr drwy'r post, defnyddiwch y cyfeiriad a nodwyd uchod.

Byddwch yn ymwybodol o'n polisi preifatrwydd ar gyfer ein wefan.

Cwynion

Os ydych yn credu ein bod wedi camddeall eich cais neu ein bod wedi hepgor rhywbeth, cysylltwch â'r swyddog a fu'n ymdrin â'ch cais er mwyn trafod y mater. Gellir cywiro'r rhan fwyaf o gamgymeriadau a chamddealltwriaethau yn hawdd.
Os ydych yn anfodlon â'r modd y mae'r Senedd wedi ymdrin â'ch cais, gallwch ofyn am adolygiad mewnol o fewn 40 diwrnod gwaith i'r dyddiad yr atebwyd y cais. Os na fyddwch yn fodlon ar y canlyniad, mae gennych hawl i gwyno i'r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd. Serch hynny, dylech fynd i'r afael â'r mater drwy ein gweithdrefn fewnol yn gyntaf cyn cwyno i'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad a ganlyn:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113 (cyfradd leol) neu 01625 545 745

Ffacs: (01625) 524 510