Sylwadau gan ein staff - Robin Wilkinson

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/01/2021   |   Amser darllen munudau

“Mae rôl uwch-swyddog ymchwil yn un amrywiol a gwerthfawr. Drwy weithio gyda phwyllgorau'r Cynulliad ac Aelodau unigol, rydw i wedi gallu helpu i lunio syniadau i wella polisi cyhoeddus yng Nghymru. Mae gweithio'n agos gyda gwleidyddion wedi fy ngalluogi i wella fy ngallu a'm hyder o ran cyfathrebu syniadau cymhleth yn ysgrifenedig ac yn bersonol. Mae bod yn uwch-ymchwilydd yn swydd ymarferol: defnyddio gwybodaeth am bwnc i awgrymu meysydd gwaith i wleidyddion, ac yna cymryd perchnogaeth ar yr angen i sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth dda wrth gyflawni eu gwaith.

 

Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cynnig amgylchedd cefnogol sydd wedi fy annog i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnaf i wneud y gwaith yn dda – p'un a yw hynny'n golygu mynd i gynadleddau arbenigol neu gymryd amser yn cwrdd â rhanddeiliaid fel fy mod yn gallu dod i ddeall meysydd newydd cymhleth.  Mae hyn wedi cynnwys gweithio ym Mrwsel i ddeall y berthynas rhwng y Cynulliad a'r UE a gweithio gydag academyddion i ymchwilio i effaith Brexit ar economi Cymru.

Rydw i wedi gweithio ar draws nifer o feysydd yn fy amser yn y Gwasanaeth Ymchwil, felly rydw i wedi cael y cyfle i ddysgu am lawer o feysydd polisi cyhoeddus – yn amrywio o Brexit a pholisi masnach i gyfathrebu digidol. Y ffactor cyffredin oedd gallu a pharodrwydd i ddysgu am faes newydd yn gyflym, ac esbonio i wleidyddion yr hyn y mae angen iddynt ei wybod mewn ffordd glir a diduedd.”