Dirprwyo swyddogaethau Comisiwn y Senedd

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2021   |   Amser darllen munudau

1. Yn unol â darpariaethau paragraff 7 o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, dirprwyir drwy hyn swyddogaethau Comisiwn y Senedd, gan gynnwys ei gyfrifoldeb am reoli staff, i'r Prif Weithredwr a'r Clerc, yn ddarostyngedig i’r eithriadau a’r amodau a ganlyn.

2. Ni ddirprwyir y materion canlynol:

a) penodiad, telerau ac amodau, a thâl y Prif Weithredwr a’r Clerc, cynghorwyr annibynnol anweithredol y Comisiwn, ac aelodau o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd; na
b) awdurdodi gwariant o dan baragraff o 6 Atodlen 2 i Ddeddf 2006 (sef darparu cymorth ariannol i’r Comisiwn Etholiadol).

3. Rhaid i'r Prif Weithredwr a'r Clerc ymgynghori â'r Comisiwn cyn:

a) penodi ar gyfer swyddi ar lefel Cyfarwyddwyr;
b) newid tâl a thelerau ac amodau’r staff sydd yn y swyddi hynny;
c) creu swyddi Cyfarwyddwyr newydd neu ddiddymu swyddi Cyfarwyddwyr sydd eisoes yn bodoli;
d) awdurdodi gwariant ar brosiectau neu gontractau sy’n werth mwy na £5 miliwn; ac
e) awdurdodi gwariant ar faterion y gellid eu hystyried yn newydd neu’n ddadleuol.

4. Nid yw’r ffaith bod y swyddogaethau uchod wedi’u dirprwyo yn rhwystro’r Comisiwn rhag ymgymryd â’r swyddogaethau dirprwyedig hynny.

Llofnodwyd ar ran y Comisiwn gan y Llywydd

"............................"


28 Gorffennaf 2021